Cwyno a Chanmol
Cwynion
Rydym bob amser yn anelu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, ond ni allwn wneud hyn heb wybod beth gredwch chi yr ydym ni’n ei wneud yn dda a lle rydym ni angen gwella.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni pan mae ein gwasanaeth yn disgyn islaw’r safon gofynnol. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i wella safon y gwasanaeth.
Rydym yn anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n tenantiaid ac aelodau’r cyhoedd, ond weithiau fe geir rhai achosion lle nad ydych yn gwbl fodlon. Efallai y byddwch yn dymuno mynd â’r mater ymhellach a chwyno am y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn, megis:
- y modd y mae polisïau’r Gymdeithas yn cael eu gweithredu
- y modd y mae swyddog yn delio â phroblem benodol
- y gwasanaeth a dderbyniwyd
- diffyg gweithredu gan y Gymdeithas
Byddwn yn:-
- gwrando arnoch
- ymchwilio i bob cwyn yn drylwyr
- cydnabod ac yn dysgu o’n camgymeriadau
- yn ceisio gwella ein gwasanaethau yn barhaus
- ymddiheuro pan fo camgymeriadau yn cael eu gwneud, ac yn gwneud yr hyn a allwn ni i gywiro pethau.
Gallwch lawrlwytho copi o’n Gweithdrefn Cwynion wrth glicio yma.
Canmoliaeth
Hoffwn gael gwybod os ydych wedi cael eich plesio gyda’n gwasanaeth. Gallwn ddefnyddio’r esiamplau yma i rannu ymarfer da ac i annog gwelliant parhaus ymysg ein staff.
Sut i gwyno amdanom neu i ganmol
Gallwch wneud cwyn neu ganmol mewn nifer o ffyrdd, boed wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn ysgrifen, trwy ffacs neu e-bost, trwy gysylltu â’r adran berthnasol. Er enghraifft os yw contractwr heb ddod i wneud y gwaith gellir datrys y broblem yn syth trwy gysylltu â’r tîm cynnal a chadw.
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol, gallwch gysylltu â’r
Uwch Swyddog Perfformiad
Cymdeithas Tai Clwyd
54 Stryd y Dyffryn
Dinbych
LL16 3BW
cwynion@taiclwyd.com
0345 230 3140
Gallwch hefyd fynd â’ch cwyn yn uniongyrchol at yr Ombwdsmon:-
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
01656 641150
01656 641199
ask@ombudsman-wales.org.uk
www.ombudsman-wales.org.uk


