Prosiect Bus Stop
Mae Bus Stop yn brosiect datblygu cymunedol symudol rhad ac am ddim, sy’n gyfrinachol ac yn agored i unrhyw un sy’n byw o fewn Sir Ddinbych a Conwy. Mae’r Prosiect yn cynnig ystod eang o wasanaethau a chyfleoedd, yn cynnwys:
- Dysgu anffurfiol ac achrededig i’r rhai sy’n dymuno cael sgiliau newydd, yn cynnwys ysgrifennu CV, technegau cyfweliad ac adeiladu hyder.
- Gwybodaeth a chefnogaeth ynglŷn â phynciau perthnasol; yn cynnwys budd-daliadau, iechyd a lles a’ch hawliau.
- Cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol.
- Prosiectau sy’n annog pobl ifanc i gymryd rhan bositif yn eu cymunedau.
- Cyfleoedd i bobl ifanc rannu eu meddyliau a’u teimladau am eu cymuned leol.
Gellir cynnal y cwbl o’r uchod o gerbyd y Prosiect gan barcio tu allan i ddrysau ffrynt pobl neu mewn lleoliad addas arall.
Mae’r cerbyd yn cynnwys gwybodaeth berthnasol a chyfredol, â mannau eistedd cyfforddus er mwyn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu anffurfiol ac ymgynghori, yn addas i blant, ac yn gweithredu fel canolbwynt i brosiectau cymunedol.


