Cymhorthdal Datblygu Cymunedol
A fyddech chi’n hoffi gwneud gwahaniaeth i’r ardal yr ydych yn byw ynddi? Fe allwn ni helpu! Pam na ddowch chi at eich gilydd gyda’ch cymdogion a gwneud cais am ein cymhorthdal newydd?
Rydym wedi cychwyn cynllun cymhorthdal newydd lle gallwch chi a’ch cymdogion wneud cais am gymhorthdal o hyd at £500 i wella’r amgylchedd o’ch cwmpas neu i drefnu diwrnod o hwyl yn eich ardal. Mae’r cynllun hwn yn gobeithio annog grwpiau o denantiaid i ddod at ei gilydd a datblygu prosiect neu syniad a all fod o fudd i’r gymuned fechan neu’r gymuned ehangach yr ydych yn byw ynddi.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am y cynllun cymhorthdal hwn, cysylltwch â Mair , Ffion neu Fred yn y Tîm Datblygu Cymunedol yn Tai Clwyd, neu medrwch lawr lwytho’r Ffurflen Gais a’r canllawiau isod.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich syniadau!


