Hafan // Chwilio am Gartref
The Association provides homes for local people.
Rhent Cymdeithasol
Mae gan Gymdeithas Tai Clwyd stoc o dai, byngalos a fflatiau o fewn ardal eang yn Sir Ddinbych, Gwynedd, Fflint, Wrecsam, Conwy a Phowys. Mae dwy swyddfa yn gofalu am yr ardaloedd, sef y brif swyddfa yn Ninbych a swyddfa ardal yn Y Bala.
MwyRhent Canolraddol
Mae nifer o wahanol opsiynau tai ar gael i bobl sy’n chwilio am dai fforddiadwy. Yn anffodus, mae rhestr aros faith yn aml am eiddo rhent cymdeithasol gan gymdeithas dai neu’r Cyngor. Os ydych chi’n gweithio, beth am ystyried eiddo Rhent Canolraddol?
MwyCofrestrwch ddiddordeb mewn Perchnogaeth Cartref Fforddiadwy
Mae Tai Clwyd yn gweinyddu Cofrestr Perchnogaeth Cartref Fforddiadwy ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
MwyCynlluniau Cartrefi Fforddiadwy
Mae Tai Clwyd yn gweinyddu nifer o gynlluniau a all eich helpu i brynu neu rentu cartref, ac yn cynnig cymorth i deuluoedd trwy’r cynllun achub morgais.
MwyGofal Ychwanegol
Mae Cymdeithas Tai Clwyd wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu dau gynllun gofal ychwanegol newydd, un yn Rhuthun a’r llall yn Y Bala.
Mwy







