Cymorth Prynu
Canllaw i Gynllun Cymorth Prynu
BETH YW CYMORTH PRYNU?
Mae Cymorth Prynu yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n cael ei oruchwylio yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid yn gyfyngedig, ar hyn o bryd dim ond yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mae cyllid cymorth prynu ar gael. Nid yw cyllid ar gael ar hyn o bryd i siroedd Wrecsam, Fflint a Dinbych, fodd bynnag gall hyn newid fel y bydd y flwyddyn ariannol yn symud ymlaen.
SUT MAE CYMORTH PRYNU YN GWEITHIO?
Bydd yn ofynnol i chi allu cyllido 70% o bris yr eiddo, gyda morgais, a blaendal o 5% o leiaf. Bydd Cymdeithas Tai Clwyd yn benthyg y 30% sy’n weddill i chi. Mewn rhai amgylchiadau, gellir cynyddu’r benthyciad cymorth prynu i uchafswm o 50%, er enghraifft mewn ardaloedd gwledig, ond dim ond lle nad ydych yn gallu fforddio cyllido 70% o bris y tŷ. Bydd canran y benthyciad yn cymryd i ystyriaeth eich incwm, morgais a chynilion a phris prynu’r eiddo.
Bydd y benthyciad yn cael ei warantu yn erbyn yr eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad.
Mae’n rhaid ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo; y swm a ad-delir fydd yr un canran o werth yr eiddo ar adeg ei ad-dalu â’r benthyciad ecwiti o’r pris prynu gwreiddiol
Gallwch ddewis ad-dalu’r benthyciad ar unrhyw adeg tra byddwch chi’n byw yn yr eiddo, ond mae’n rhaid ad-dalu’r benthyciad wrth werthu’r eiddo.
Y chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r eiddo, yn ogystal â sicrhau fod yr eiddo wedi ei yswirio’n llawn.
Os ydych yn penderfynu gwerthu eich eiddo, mae rhaid i chi hysbysu Cymdeithas Tai Clwyd yn ysgrifenedig o’ch dymuniad i werthu’r eiddo, gan fod gan y Gymdeithas hawl i enwebu darpar brynwr i brynu eich cartref.
Os nad yw’r Gymdeithas yn gallu enwebu, rydych wedyn yn rhydd i werthu eich cartref ar y farchnad agored, ac ad-dalu’r benthyciad.
PA FATH O EIDDO GAF I EI BRYNU DRWY GYFRWNG Y CYNLLUN CYMORTH PRYNU?
Cewch brynu eiddo newydd neu eiddo hŷn, cyn belled ei fod o fewn y Sir yr ydych chi’n byw neu weithio ynddo ar hyn o bryd:
- Mae ar werth ar y farchnad agored gyda meddiant gwag ac yn addas i fyw ynddo ar unwaith.
- Mae’n dderbyniol at ddibenion morgais.
- Mae’n eiddo preswyl ac nad oes iddo ddefnydd masnachol.
- Rhaid iddo fod yn addas ar gyfer maint eich teulu. Nid all fod ddim mwy na un llofft yn ychwanegol i anghenion y teulu. Gellir gwneud eithriadau pan fo’r eiddo sydd ar gael yn eich dewis ardal yn bennaf o un maint neu lle mae prisiau yn eithriadol o uchel neu rydych angen eiddo mwy oherwydd bod gan aelod o’r teulu anabledd ac mae’n angenrheidiol cael llofft/ystafell ychwanegol.
- Mae pris prynu’r eiddo o fewn terfynau prisiau cyhoeddedig y cynllun a bennir gan Lywodraeth Cymru, ac yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a maint eich teulu.
- Bydd y benthyciad yn cael ei seilio ar y pris prynu ac eithrio gwerth arian yn ôl (‘cash back’), nwyddau gwyn, carpedi, dodrefn, trosglwyddo dyled neu gymhellion eraill mewn arian neu mewn nwyddau neu gynnyrch.
- Rhaid i gartrefi newydd ar werth gan ddatblygwyr fod yn gymwys ar gyfer y cynllun yswiriant NHBC neu gynllun cyfatebol.
- Rhaid i eiddo a gynigir ar sail prydles (fflatiau yn bennaf) gynnig cyfnod o 60 mlynedd yn weddill o leiaf.
- Yr eiddo fydd eich unig gartref swyddogol (gellir eithrio unigolion sy’n gwasanaethu yn y fyddin a.y.b. a all orfod mynd i weithio i ffwrdd o’r ardal yn y dyfodol).
NID YW’R EIDDO Â GANLYN YN GYMWYS AR GYFER Y CYNLLUN:
- Eiddo sy’n cynnwys unrhyw elfen o ddefnydd masnachol. (Nid yw’n cynnwys fflatiau uwchben siopau)
- Y rhan fwyaf o garafanau, cartrefi cwch a chartrefi symudol eraill (yn cynnwys cartrefi sefydlog a nodir dan y Ddeddf Cartrefi Symudol 1983).
- Eiddo ym mherchnogaeth neu ran-berchnogaeth eich priod/partner, aelod o’r teulu (rhiant, taid/nain, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith) neu gyswllt busnes (rhywun sy’n bartner busnes i chi neu’n gyd-gyfarwyddwr). Eithriadau i’r rheol hon yw eiddo sy’n gysylltiedig â thor-priodas/perthynas yn chwalu.
- Eiddo y mae tenantiaid yn byw ynddo.
- Eiddo mewn cyflwr gwael.
- Cartref a gynigir gyda chymhorthdal neu ddisgownt gan gorff cyhoeddus.
Am wybodaeth fanwl ynglŷn â’r cynllun Cymorth Prynu, cysylltwch â ni trwy e-bostio taifforddiadwy@taiclwyd.com neu ffoniwch y Tîm Cartrefi Fforddiadwy ar 0345 2303140


