Rhan Ecwiti
Canllaw i’r Cynllun Rhan Ecwiti
BETH YW RHAN ECWITI?
Cynigir rhan ecwiti fel arfer ar eiddo newydd sbon a brynir yn uniongyrchol gan ddatblygwr, neu eiddo ail-law a brynwyd yn y gorffennol trwy rhan ecwiti gan ddatblygwr. Weithiau, cynigir rhan ecwiti gan gymdeithasau tai neu awdurdodau lleol ar eu heiddo eu hunain.
SUT MAE RHAN ECWITI YN GWEITHIO?
Mae’r benthyciad ecwiti fel arfer yn 25% neu 30%. Er enghraifft, os yw gwerth eiddo yn £129,000, byddai’r benthyciad ecwiti o 30% yn £38,700. Byddai’n rhaid i chi godi’r 70% sy’n weddill – £90,300 gyda morgais confensiynol neu gyfuniad o forgais a chynilion. Fel arfer, mae angen 5% o flaendal.
Unwaith yr ydych chi wedi prynu’r eiddo, bydd y benthyciad ecwiti yn cael ei warantu yn erbyn eich eiddo. Nid oes rhent misol na llog i’w dalu ar y benthyciad. Byddwch chi’n gyfrifol am yswirio a chynnal a chadw eich cartref.
PRYD FYDDAF YN AD-DALU’R BENTHYCIAD ECWITI?
Fel arfer, mae’r benthyciad ecwiti yn aros yn yr eiddo ar gyfer y prynwr nesaf. Pan fyddwch yn dymuno gwerthu, bydd Tai Clwyd fel arfer yn darganfod prynwr i brynu eich % siâr. Ar adeg ei werthu, os bydd eich eiddo yn werth, er enghraifft, £140,000 byddwch chi’n derbyn 70% o’r £140,000 sef £98,000. Os nad yw Tai Clwyd yn gallu darganfod prynwr ar ôl cyfnod o amser, gallwch werthu’r eiddo ar y farchnad agored ac ad-dalu’r % benthyciad ecwiti i Tai Clwyd.
Ar rai cynlluniau, efallai y gallwch ad-dalu’r benthyciad ecwiti yn wirfoddol.
Am wybodaeth fanwl ynglŷn â Rhan Ecwiti, cysylltwch â ni trwy e-bostio .(JavaScript must be enabled to view this email address) neu ffoniwch y Tím Cartrefi Fforddiadwy ar 0345 2303140


