Rhanberchnogaeth
Canllaw i Gynllun Rhanberchnogaeth
BETH YW RHANBERCHNOGAETH?
Fel arfer, cyfeirir at rhanberchnogaeth fel “prynu’n rhannol, rhentu’n rhannol”. Rydych chi’n prynu siâr o eiddo y mae Tai Clwyd yn ei berchen ac yn talu rhent i Tai Clwyd ar y siâr nad ydych yn ei berchen.
Mae rhanberchnogaeth fel arfer yn gynllun da i ymgeiswyr sydd ar incwm is na’r cyfartaledd, neu ymgeiswyr sydd o bosib yn ddi-waith neu wedi ymddeol ond sydd â pheth ecwiti o werthiant eiddo blaenorol, ond dim digon i brynu eiddo ar y farchnad agored neu gynlluniau fforddiadwy eraill megis cymorth prynu neu rhan ecwiti, lle mae’n rhaid i chi gyllido 70%.
Er enghraifft:
Efallai bod modd i chi godi £40,000 unai trwy forgais neu gyfuniad o forgais a chynilion/ecwiti, sy’n ddigonol i brynu siâr o 40% mewn eiddo sy’n werth £100,000.
Efallai y bydd modd i chi brynu % siâr ychwanegol fel mae eich sefyllfa ariannol yn gwella, ond dim ond os mai dyna yw eich dewis.
Byddwch yn derbyn les dros gyfnod o 99 neu 125 mlynedd a byddwch yn dod yn lesddaliwr.
Byddwch chi’n gyfrifol am yr holl waith trwsio a chynnal a chadw ac am yswirio eich cynnwys personol. Bydd Tai Clwyd yn yswirio’r adeilad.
PA FATH O EIDDO GAF I BRYNU?
Fel arfer, bydd yn eiddo y mae Tai Clwyd yn ei berchen.
BETH OS WYF I AM WERTHU?
Bydd Tai Clwyd yn ceisio dod o hyd i brynwr i brynu eich % siâr, byddwch chi yn aseinio eich % siâr i’r perchennog newydd.
Am wybodaeth fanwl ynglŷn â chynllun rhanberchnogaeth, cysylltwch â ni trwy e-bostio .(JavaScript must be enabled to view this email address) neu ffoniwch y Tím Cartrefi Fforddiadwy ar 0345 2303140


