Tai Clwyd

Gofal Ychwanegol

Mae Cymdeithas Tai Clwyd wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu dau gynllun gofal ychwanegol newydd, un yn Rhuthun a’r llall yn Y Bala.

Bydd y cynllun yn Y Bala y cyntaf o fewn y sir, lle bydd 30 uned (23 uned 2 ystafell wely a 7 uned 1 ystafell wely) ar safle sydd gerllaw Coleg y Bala ac ystâd Cysgod y Coleg.

Mae’r cynllun yn Rhuthun ar gyfer 21 uned (17 uned 2 ystafell wely a 4 uned 1 ystafell wely) fydd ar safle gerllaw cartref gofal preswyl Awelon.


Llys Awelon, Rhuthun

Beth yw tai gofal ychwanegol?
Tai gofal ychwanegol yw darpariaeth tai sy’n darparu ar gyfer pobl sy’n awyddus i fyw yn annibynnol, ond gyda’r fantais o gael tîm gofal ar y safle. Mae hyn yn ddewis amgen i ofal preswyl i lawer o bobl. Mewn cynllun tai gofal ychwanegol byddwch yn cadw eich annibyniaeth, tra’n elwa o ddarpariaeth gofal hyblyg, y gellir ei deilwra i weddu eich anghenion wrth iddynt newid. Bydd hyn yn ymestyn eich annibyniaeth ac yn darparu cartref am oes i chi.

Mae Tai Gofal Ychwanegol yn wahanol oherwydd:

  • Byddwch yn byw yn eich cartref eich hun – nid mewn cartref preswyl
  • Bydd gennych chi eich drws ffrynt eich hun – chi sy’n penderfynu pwy sy’n dod i mewn
  • Gall parau a ffrindiau aros gyda’i gilydd
  • Bydd pobl â lefelau anghenion gofal amrywiol yno
  • Bydd gwasanaethau gofal a chefnogaeth ar gael ar safle – os oes eu hangen arnoch chi (cynhelir asesiad gofal)
  • Byddwch yn cael cymorth i gadw eich annibyniaeth
  • Cewch gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Chi fydd yn rheoli eich arian
  • Byddwch yn teimlo’n ddiogel ac yn dawel eich meddwl
  • Mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn


Awel Y Coleg, Y Bala (Dyluniad Arlunydd)

Pwy fydd yn cael eu hystyried?
Mae polisïau dyrannu gwahanol i’r ddau gynllun, ond yn gyffredinol, bydd rhaid i’r tenantiaid fod yn 60 oed neu hŷn, a chyda gwahanol lefelau o anghenion gofal. Lawrlwythwch y ddogfen isod os gwelwch yn dda i gael gwybodaeth bellach.

Sut mae gwneud cais?
Lawrlwythwch y ffurflen gais isod, ei hargraffu , a’i gyrru nôl atom, neu cysylltwch â‘r swyddfa am ffurflen gais.

Lawrlwytho

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30