Tai Clwyd

Rhent Canolraddol

Mae nifer o wahanol opsiynau tai ar gael i bobl sy’n chwilio am dai fforddiadwy. Yn anffodus, mae rhestr aros faith yn aml am eiddo rhent cymdeithasol gan gymdeithas dai neu’r Cyngor. Os ydych chi’n gweithio, beth am ystyried eiddo Rhent Canolraddol?

Gwnewch Gais Ar-Lein Nawr

Mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim yn barod i ymrwymo i brynu cartref am amryw o resymau, megis, dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael, i’w galluogi i gael mynediad i forgais.
Ar rai eiddo rhent canolraddol fe allwch brynu’r eiddo, ond mae hyn ar ddisgresiwn y Gymdeithas.

At bwy mae eiddo Rhent Canolraddol wedi ei anelu?

Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac/neu y rhai hynny sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i incwm net y cartref fod rhwng £15,000 – £30,000.

Fel arfer, mae’r eiddo yn rhai newydd neu gymharol newydd, ac wedi eu lleoli yn agos i gyfleusterau. I ddarganfod ymhle mae gennym eiddo, cliciwch yma

I ddarganfod mwy am Rhent Canolraddol, lawrlwythwch y daflen gwybodaeth ar waelod y dudalen yma.

Fe ddylech fod wedi cofrestru ar Gofrestr Perchnogaeth Cartref Fforddiadwy / Cofrestr Rhent Fforddiadwy yr Awdurdod Lleol perthnasol, neu yn gymwys i’ch cofrestru. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais ar waelod y tudalen yma.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Rhent Canolraddol, cysylltwch â’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy ar 0345 2303140 neu e-bostiwch taifforddiadwy@talclwyd.com

Lawrlwytho

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30