Tai Clwyd

Ffurfio Partneriaeth Newydd i’w gwneud hi’n haws i bobl rentu tai fforddiadwy yng Nghymru!

Bydd gan bobl Cymru ddewis ehangach o dai ar rent o heddiw ymlaen, wrth i bedair cymdeithas dai gydweithio ar gynllun peilot gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu Principality. Mae’r fenter gyffrous wreiddiol yma a elwir Partneriaeth Tai Cymru yn gweld cydweithio rhwng Coastal Group, Hendre Group, Seren Group a Chymdeithas Tai Clwyd i brynu tai fforddiadwy i bobl eu rhentu.

Rhyngddynt, mae gan y cymdeithasau tai hyn, sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe ac yn Ninbych, drosiant o £100miliwn a rheolaeth dros bron i 18,000 o dai.

Nod y prosiect newydd, Partneriaeth Tai Cymru, yw cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o safon sydd ar gael i deuluoedd eu rhentu gan na allant brynu eu tai eu hunain. Bydd y bartneriaeth yn cynnig pecynnau rhent tymor hir o safon i denantiaid sy’n awyddus i rentu un o’r tai fforddiadwy hyn yng ngogledd neu dde Cymru.

“Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi sefydlu Partneriaeth Tai Cymru, a fydd yn helpu cynyddu’r cyflenwad o dai sydd ar gael i bobl ar draws Cymru, gyda thua 150 o dai ar gael ym mlwyddyn gyntaf y cynllun. Mae hyn yn nodi penllanw llawer o fisoedd o waith caled i gyflwyno ffordd newydd ac arloesol o ddarparu cartrefi fforddiadwy ac o ansawdd, blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.”
Huw Lewis, Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth

Yn ôl Alwyn Llwyd, un o Gyfarwyddwyr Bwrdd Partneriaeth Tai Cymru a Phrif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd: “Nod Partneriaeth Tai Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality, yw prynu hyd at 150 o dai, dwy ystafell wely, i’w rhentu yn ystod y flwyddyn gyntaf. Trwy gydweithio gallwn rannu ystod eang o brofiadau o fewn y diwydiant tai a chynnig tai fforddiadwy ar rent i bobl sy’n byw yn ne a gogledd Cymru. Ein gobaith fydd ehangu ar sylfaen gadarn er mwyn sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn byw mewn tai rhent o safon drwy Gymru gyfan.”

Charlotte Awcock, 20 oed, Swyddog Yswiriant i gwmni yng Nghaerdydd yw tenant cyntaf Partneriaeth Tai Cymru. Wedi ei geni a’i magu yng Nghasnewydd, mae Charlotte wrth ei bodd iddi lwyddo i gael cartref fforddiadwy ar rent yn Orchard Garden, Casnewydd. Mae amseru’r denantiaeth yn eithriadol o bwysig gan ei bod yn feichiog gyda’i phlentyn cyntaf. Gan bod disgwyl y bychan o fewn ychydig fisoedd, mae’r tŷ modern canol teras sydd â dwy ystafell wely yn berffaith ar ei chyfer.

“Dwi wrth fy modd gyda’r tŷ newydd, ac yn ystyried fy hun yn hynod o lwcus i fod y tenant cyntaf o fewn y cynllun newydd yma. Ychydig o wythnosau’n ôl roeddwn yn byw mewn fflat ar y llawr uchaf, ac roedd y syniad o gerdded i fyny’r holl risiau gyda baban newydd-anedig mewn pram yn ddigon i godi ofn arnai! Ar ôl tair blynedd o fod ar y gofrestr tai fforddiadwy, dwi wedi dotio fy mod yn ymgartrefu ar stad fel hon, ac yn sefydlu cartref newydd i mi a’r bychan sydd ar ei ffordd.”

Meddai’r Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis: “Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi sefydlu Partneriaeth Tai Cymru, a fydd yn helpu cynyddu’r cyflenwad o dai sydd ar gael i bobl ar draws Cymru, gyda thua 150 o dai ar gael ym mlwyddyn gyntaf y cynllun. Mae hyn yn nodi penllanw llawer o fisoedd o waith caled i gyflwyno ffordd newydd ac arloesol o ddarparu cartrefi fforddiadwy ac o ansawdd, blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.”

Mae’r cynllun £16miliwn wedi ei ariannu drwy gyfuniad o £3miliwn o arian grant Llywodraeth Cymru, benthyciad £12miliwn gan Adran Fasnachol Cymdeithas Adeiladu’r Principality a £1miliwn o gyllid ecwiti gan fuddsoddwyr Partneriaeth Tai Cymru.

Dywedodd Peter Hughes, Pennaeth Masnach Principality: “Mae Partneriaeth Tai Cymru yn cynrychioli ateb unigryw cydweithredol sy’n symud Cymru yn agosach at ddatblygiad model rhentu sefydliadol gredadwy. Mae hi’n glir fod y farchnad dai yng Nghymru wedi gweld shifft strwythurol gyda pherchnogaeth tai yn lleihau yng Nghymru a nifer o deuluoedd yn dewis rhentu.

“Bydd y cynllun yn sicrhau bod y teuluoedd o Gymru sydd ar hyn o bryd yn cael trafferth i brynu eu cartref cyntaf, yn gallu rhentu tai gan y bartneriaeth yn gwbl hyderus y budd eu rhent yn fforddiadwy a’u tai yn cael eu cynnal a’u cadw. Mae’r Gymdeithas yn falch o gefnogi menter o’r fath wedi’r holl waith o gydweithio ers dyfodiad y dirwasgiad economaidd – yn fwy na hynny rydym yn credu bod modd i’r model hwn, yn y pen draw gael ei ddatblygu ar raddfa fwy, er mwyn cynnig ystod eang o atebion yn gymorth i’r agenda tai yng Nghymru.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu â Phartneriaeth Tai Cymru am wybodaeth bellach, ewch i www.welshhousingpartnership.co.uk

Am y stori hon:

Categori /
Dyddiad Cyhoeddi / 15/09/2011
Awdur / Ceri
Darllen y Sylwadau

Sylw

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30