Tai Clwyd

Gofal & Thrwsio

Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio yw : Dylai pob person hŷn fyw mewn cartrefi sy’n gwella ansawdd eu bywyd.

Pwy ydym ni?
Mae Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych yn cynorthwyo pobl hŷn (60 +) i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn gyfforddus, diogel a chynes.
Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad i berchnogion tai a thenantiaid preifat yn Sir Ddinbych sydd dros 60 oed.

Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:

  • Dewisiadau tai * / atebion er mwyn eich galluogi i aros yn annibynnol yn eich cartrefi eich hunain;
  • Materion technegol megis gwaith atgyweirio / gwella neu addasu;
  • Argymell contractwyr oddi ar ein rhestr gymeradwy;
  • Cymorth ymarferol i drefnu a gwaith monitro er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i safon foddhaol;
  • Cymorth i lenwi ffurflenni cais am grantiau a budd-daliadau;
  • Gwneud cais am grantiau i wneud eich cartref yn gynhesach;
  • Bod yn ddiogel yn eich cartref eich hun gyda Gwiriadau Cartrefi Iach;
  • Gwiriadau Diogelwch Tân a gynhelir mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ;
  • ‘Gwasanaethau Garddio Gerddi Gwyrdd’ a chynllun tasgmon (codir tâl).

"Mae Gofal a Thrwsio yma i'ch helpu chi drwy bob rhan o'r broses, gan gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth y mae croeso i chi ei dderbyn neu wrthod."

Gwneud y mwyaf o’ch incwm
Gall yr asiantaeth eich helpu i uchafu eich incwm drwy wirio eich Budd-daliadau. Gall ein Gweithiwr Achos ddarparu asesiad budd-dal er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Dim Rhwymedigaeth
Mae Gofal a Thrwsio yma i’ch helpu chi drwy bob rhan o’r broses, gan gynnig cefnogaeth cyngor a chymorth y mae croeso i chi ei dderbyn neu wrthod. Ni fyddwch ar unrhyw adeg o dan unrhyw rwymedigaeth i fwrw ymlaen gydag unrhyw waith os nad ydych yn sicr. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gennych chi.

Partneriaethau Gweithio
Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Y Gwasanaeth Pensiwn, Canolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru, Gwasanaethau Tai ac Adnewyddu Ardal Cyngor Sir Ddinbych , Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.


T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30