Prynu eich Cartref
Fel tenant Tai Clwyd, mae’n bosib fod gennych hawl i brynu eich cartref trwy gynllun ‘Hawl i Gaffael’
Mae Hawl i Gaffael yn gynllun sy’n rhoi hawl cyfreithiol i bobl sy’n denantiaid cymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig brynu’r cartref y maent yn rhentu ar y pryd.
Mae gennych hawl i gaffael os :-
- Ydych yn byw mewn eiddo sydd wedi cael ei ddarparu neu ei wella gyda Grant Tai Cymdeithasol a ddarparwyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 1997.
- Mae rhai mathau o eiddo sy’n rhydd o’r drefn Hawl i Gaffael, er enghraifft, eiddo mewn ardaloedd gwledig penodol
Yn ogystal â byw mewn eiddo cymwys rhaid ichi fod:
- Wedi treulio cyfanswm o ddwy flynedd yn denant i landlord sector cyhoeddus neu mewn llety a ddarparwyd gan y lluoedd arfog, os oeddech yn denant sector cyhoeddus cyn 18 Ionawr 2005.
- Wedi treulio cyfanswm o bum mlynedd fel tenant sector cyhoeddus, os oedd eich tenantiaeth gyntaf yn y sector cyhoeddus wedi creu ar 18 Ionawr 2005 neu wedi hynny.
- Yn byw mewn eiddo sy’n dŷ neu fflat hunan-gynwysedig ac yn unig neu’n brif gartref i chi.
Ni fyddwch yn gallu ceisio am yr Hawl i Gaffael os ydych:
- Yn fethdalwr nas rhyddhawyd neu os oes deiseb methdalu wedi ei chyflwyno yn eich erbyn ar hyn o bryd
- Yn destun gorchymyn ildio meddiant a gyflwynwyd gan lys, ar gais eich landlord.
- Yn destun cytundeb credydwyr ffurfiol a wnaed o dan y Deddfau Methdalu.
Eich hawl i ddisgownt
Ar hyn o bryd mae gan denant, sy’n prynu t ŷ o dan yr Hawl i Gaffael yng Nghymru, yr hawl i ddisgownt o 25% o’r pris prynu, hyd at uchafswm disgownt o £16,000. Os ydych wedi cael disgownt yn y gorffennol i’ch helpu i brynu t ŷ , gellir tynnu hwnnw allan o’ch disgownt Hawl i Gaffael.
Gwerthu eich eiddo ar ôl prynu trwy’r Hawl i Gaffael
Gallwch werthu eich eiddo unrhyw adeg, yr un modd yn union â pherchnogion tai eraill. Serch hynny os ydych wedi gwneud cais i brynu eich eiddo ar 18 Ionawr 2005 neu wedi hynny ac yn ei werthu eto o fewn pum mlynedd i’r dyddiad y gwnaethoch ei brynu, dylech ddisgwyl ad-dalu swm sy’n cyfateb i werth y disgownt yr ydych wedi ei dderbyn.
Mae’r modd y caiff yr ad-daliad ei gyfrifo yn ystyried unrhyw newid ym mhrisiad y t ŷ ers i chi ei brynu, ynghyd â faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i chi ei brynu.
Os ydych yn ei werthu o fewn blwyddyn = rhaid ad-dalu 100%
Os ydych yn ei werthu o fewn 2 flynedd = rhaid ad-dalu 80%
Os ydych yn ei werthu o fewn 3 blynedd = rhaid ad-dalu 60%
Os ydych yn ei werthu o fewn 4 blynedd = rhaid ad-dalu 40%
Os ydych yn ei werthu o fewn 5 mlynedd = rhaid ad-dalu 20%
Nid oes angen ad-daliad ar ôl 5 mlynedd llawn
Yn ogystal os ydych yn penderfynu gwerthu’r eiddo ar unrhyw adeg o fewn 10 mlynedd i’r dyddiad y gwnaethoch ei brynu, bydd gofyn i chi roi’r cynnig cyntaf i Gymdeithas Tai Clwyd i’w brynu ar ei werth cyfredol ar y farchnad agored. Os na fydd Cymdeithas Tai Clwyd yn dymuno ei brynu, yna gallwch ei werthu ar y farchnad agored.


