Tai â Chefnogaeth
Mae Cymdeithas Tai Clwyd trwy’r Tîm Tai â Chefnogaeth yn darparu cefnogaeth rheolaeth tai i deuluoedd ac unigolion sydd angen cymorth i gynnal eu tenantiaethau yn llwyddiannus. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaethau.
Mae’r Tîm yn cefnogi pobl trwy 4 prosiect penodol:
Cefnogaeth Lletya ar Gyfer Unigolion ag Afiechyd Meddwl
- Ydych chi’n dioddef o broblem iechyd meddwl tymor hir?
- Ydych chi’n derbyn cefnogaeth reolaidd barhaol gan Tîm Dyffryn Clwyd ?
- Ydych chi’n ei chael hi’n anodd byw’n annibynnol?
- Ydych chi angen lle diogel/addas i fyw ynddo?
- Ydych chi angen cefnogaeth ychwanegol parthed materion lletya?
Os ydych yn derbyn cefnogaeth gan Tîm Dyffryn Clwyd gofynnwch iddynt eich cyfeirio at y cynllun yma.
Cymorth ar Gyfer Pobl Digartref Rhwng 16 -25 Oed
Ydi’r Cynllun yma ar dy gyfer?
Ydi os wyt ti’n:
- sengl
- digartref
- rhwng 16 – 25 oed
Gallet gyfeirio dy hunan neu cael dy gyfeirio gan:
- Adran Dai Sir Ddinbych
- Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych
- Prosiect Ieuenctid Dinbych
Cynllun Cefnogi Sipsiwn a Trafeilwyr
Mae’r tîm yn gweithio gyda Sipsiwn a Thrafeilwyr sy’n penderfynu ymgartrefu yn y gymuned dai. Mae cefnogaeth tebyg ar gael i Sipsiwn a Thrafeilwyr sydd â chytundeb preswylio mewn mannau eriall hefyd.
Gwasanaeth Warden Allanol
A ydych chi’n derbyn elfen o fudd-dâl tai?
Os felly mae’n bosib y gallai Warden Allanol eich cynorthwyo gydag agweddau amrywiol o’ch tenantiaeth am oddeutu hanner awr bob dydd (Llun i Gwener). Gallai’r Warden eich cynorthwyo gyda’r canlynol:
- Siopa dydd i dydd
- Casglu presgripsiwn
- Ymweld â’r banc / Swyddfa Bost
- Delio hefo biliau / gohebiaeth
- Newid bwlbiau / ffiws ac yn y blaen.
- Adnabod anghenion cefnogaeth pellach.


