Tai Clwyd

Cymryd Rhan

Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan yng ngwaith Cymdeithas Tai Clwyd – gallwch gymryd rhan o gartref, ar eich ystâd, yn eich cymunedau neu yn ein digwyddiadau. Dyma rai ffyrdd y gallwch gymryd rhan:

Arolygon / Ymgynghoriadau
Rydym yn cynnal arolygon post, ffôn ac o ddrws i ddrws yn rheolaidd. Mae’r canlyniadau yn ein galluogi i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’n tenantiaid yn ogystal â sicrhau fod eich mewnbwn chi fel tenantiaid yn cael ei gynnwys yn ein strategaethau a’n polisïau.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr
Gallwch un ai ymuno â Chymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr sydd eisoes yn eich ardal, neu gyda chymorth Cymdeithas Tai Clwyd, sefydlu grŵp newydd yn eich ardal.
Gall grŵp preswylwyr gynorthwyo i ddatrys problemau cymunedol a hyrwyddo gweithgareddau cymunedol – gan sicrhau fod eich cymuned yn well lle i fyw. Mae Cymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr yn cynnwys preswylwyr lleol sy’n cynrychioli barn a dymuniadau preswylwyr eraill yn eu hardal. Darperir cymorth a chefnogaeth gan y Tîm Datblygu Cymunedol a chynigir hyfforddiant i sicrhau fod y grŵp yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac yn effeithiol.

Diwrnod Tenantiaid / Diwrnodau Hwyl
Pob blwyddyn, mae Cymdeithas Tai Clwyd yn trefnu Diwrnod o Hwyl i’n holl denantiaid ym mis Awst. Ceir gweithgareddau ar gyfer pob oedran yn ogystal â chyfle i chi, ein tenantiaid, gwrdd â staff y Gymdeithas mewn awyrgylch anffurfiol. Gwahoddir nifer o asiantaethau a sefydliadau hefyd i ddarparu unrhyw wybodaeth y gallwch fod ei angen Mae lleoliad y digwyddiad yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Darperir cludiant a lluniaeth.

Gwibdaith
Mae Cymdeithas Tai Clwyd yn trefnu gwibdaith bob blwyddyn pryd y byddwn yn ymweld â’r tenantiaid mewn ardal benodol. Anelwn i ymweld â phob tenant ar gylchdro 3 blynedd. Mae hyn yn ychwanegol i’r ymweliadau gan staff gweithredol. Pwrpas y wibdaith yw hyrwyddo gwaith y Gymdeithas yn ogystal â darparu unrhyw wybodaeth a all fod yn berthnasol er enghraifft ‘sut i leihau eich costau’.

Cyfarfod Blynyddol
Mae pob tenant yn derbyn gwahoddiad i fynychu Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas, sy’n cael ei gynnwys ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. Mae hyn er sicrhau ein bod yn atebol i’n tenantiaid. Darperir trafnidiaeth a lluniaeth. Eto, mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau o fewn ein hardal weithredol o flwyddyn i flwyddyn.

Siopwyr Dirgel
Mae Siopa Dirgel yn gyfrwng i wirio lefel y gwasanaeth a ddarperir gan y Gymdeithas. Yn y lle cyntaf, mae tenantiaid yn cael eu hyfforddi ac yna byddant yn derbyn tasgau i fesur yn erbyn ein Safonau Gwasanaeth. Efallai y byddwch yn ymweld â’n derbynfeydd, gwneud galwadau ffôn, ysgrifennu llythyrau neu e-byst, ac yna’n adrodd ar y canlyniadau yn ôl i’r Gymdeithas.

Prosiectau Gwella Ystadau
A hoffech chi wneud gwahaniaeth i’r ardal yr ydych chi’n byw ynddo? Gallwn helpu! Mae’r cymhorthdal hwn yn eich galluogi chi a’ch cymdogion i ddod ynghyd i wneud cais am gymhorthdal o hyd at £500 i wella’r amgylchedd o’ch cwmpas neu i drefnu diwrnod o hwyl yn eich ardal. Mae’r cynllun yn anelu i annog grwpiau o denantiaid i ddod ynghyd a datblygu prosiect neu syniad a all fod o fudd i gymuned fechan neu ehangach.

Llais Clwyd
Panel o denantiaid sy’n fodlon i Gymdeithas Tai Clwyd ymgynghori â hwy ar amrywiol faterion sy’n effeithio arnynt, o broblemau lleol i’w hardal hwy i newidiadau mewn polisi a gweithdrefnau. Mae aelodau Llais Clwyd hefyd yn gymwys i gynllun cymhelliant.

Gweithgorau Tasg a Gorffen
O dro i dro bydd Cymdeithas Tai Clwyd yn cynnal adolygiad ar wasanaeth penodol a ddarperir e.e. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cynnal a Chadw, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a.y.b. Lle bo modd, rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn tenantiaid ac yn gofyn i denantiaid fod yn aelod o’r Gweithgor. Mae’r grwpiau hyn fel arfer yn cyfarfod yn rheolaidd am gyfnod byr o amser.

Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid (GCT)
Mae’r Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid yn cwrdd yn chwarterol i fonitro gwaith y Tîm Datblygu Cymunedol. Mae’r Gweithgor hefyd yn gyfrifol am fonitro’r cynnydd yn erbyn Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol y Gymdeithas. Mae GCT yn cynnwys staff o bob adran o fewn y Gymdeithas, yn ogystal â thenantiaid (rhai ohonynt yn aelod o’r Bwrdd Rheoli) a holl aelodau’r Tîm Datblygu Cymunedol.

Tenant Archwilwyr
Rôl y tenant archwilwyr yw monitro safon y gwasanaeth a ddarperir i denantiaid er mwyn amlinellu ymarfer da ac i awgrymu unrhyw welliannau sydd eu hangen. Mae’r grwp yn cynnal archwiliadau trylwyr o’n gwasanaethau. Fel aelod o’r grwp tenant archwilwyr, byddwch yn cynorthwyo i gynhyrchu adroddiadau sy’n gwneud argymhellion i’r uwch swyddogion a’r Bwrdd. Darperir hyfforddiant i unrhyw un sy’n dymuno dod yn denant archwilydd.

Aelod Tenant ar y Bwrdd
Mae’r broses o ethol tenantiaid ar y Bwrdd yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Mwy o wybodaeth i ddilyn.

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30