Os ydych yn berchen ar eich cartref, mae'n bosibl y gall y Cynllun Achub Morgais eich helpu os ydych chi’n cael anawsterau talu eich morgais ac os oes perygl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu arian ar gyfer ei chynllun achub morgeisi i rwystro perchenogion tai rhag colli eu cartrefi lle mae perygl y gallai eu tai gael eu hadfeddiannu.
Mae'r arian ychwanegol yn cael ei neilltuo oherwydd bod cynnydd yn nifer y perchenogion tai sy'n wynebu anawsterau oherwydd y "wasgfa gredyd".
O dan y cynllun gall Cymdeithasau Tai ddefnyddio grantiau i naill ai:
Darperir y cyllid lle mae perchenogion y tai mewn gwir argyfwng a lle byddent, oni bai am yr arian, yn ddigartref. Dylai hyn ostwng unrhyw bwysau ychwanegol ar restrau tai cymdeithasol ac ar y defnydd a wneir o lety dros dro.
Os ydych yn profi anawsterau wrth dalu eich morgais, neu rydych mewn perygl o golli eich cartref, cysylltwch â’r Gymdeithas os gwelwch yn dda ar 0345 230 3140 i drafod ymhellach.
I gael gwybodaeth pellach am y cynllun achub morgais:
Cliciwch yma i ddarllen y daflen sydd wedi cael ei ddarparu gan Cymdeithas Tai Clwyd
Cliciwch yma i gael eich ailgyfeirio at y dudalen achub morgais ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru
Am gefnogaeth a chyngor ar dai cysylltwch â www.sheltercymru.org.uk, rhif ffôn 0845 075 5005. Cliciwch yma i weld taflen gwybodaeth Shelter Cymru ac i ddod o hyd i’ch swyddfa lleol.
Am gyngor ar dai a rholaeth dyled cysylltwch â’r CAB www.citizensadvice.org.uk. I ddod o hyd i’ch swyddfa lleol cliciwch ar y sir perthnasol:
Sir Ddinbych
Sir Conwy
Sir Fflint
Wrecsam
Gwynedd
Powys