Cynnal a Chadw

 

Pwy sy'n gyfrifol am drwsio eich eiddo?
Os oes rhywbeth wedi torri neu ddim yn gweithio, edrychwch drwy'r dudalen hon i weld cyfrifoldeb pwy yw trwsio neu adnewyddu'r eitem dan sylw.
Os mai cyfrifoldeb y Gymdeithas ydyw, yna cysylltwch â ni drwy ysgrifennu, ffonio, ebostio neu alw yn un o'r swyddfeydd. Cofiwch roi eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn lle gallwn adael neges os bydd angen.

 

 

 

Eitemau mae'r Gymdeithas yn gyfrifol amdanynt:

  • Erial deledu gymunedol a dysglau lloeren
  • To, llechi a theils
  • Simdde a'r potiau
  • Gwaith brics a'r plastr allanol
  • Gwaith coed allanol i'r to
  • Trwsio gwteri a phibellau dŵr glaw
  • Pibellau gwastraff a dŵr budr
  • Twll archwilio, rhigolau a draeniau wedi cau a W.C.
  • Waliau a ffens derfyn
  • Llwybrau at y drws ffrynt a'r drws cefn
  • Drysau mewnol ac allanol
  • Offer drysau - mewnol ac allanol
  • Ffenestri a gwydriad
  • Rhannau cymunedol
  • Garej os ynghlwm i'r eiddo
  • Peintio allanol a mannau cymunedol
  • Gwaith plastro
  • Lloriau, scirtin, architrave a'r grisiau
  • Trwsio teils llawr sydd wedi eu gosod gan y Gymdeithas
  • Baddonau, basn, toiled, sinc, cawod, unedau cegin
  • Gwaith plymwr, gwresogi ac offer trydan sydd wedi eu gosod gan y Gymdeithas
  • Basged dân, frets, bariau, cheeks a.y.b. - un darn ar gael unwaith bob blwyddyn os bydd angen
  • Offer tân, datgelwyr mwg ar systemau panel
  • Yswirio yr adeilad.

 

Eitemau mae'r tenant yn gyfrifol amdanynt:

  • Erial a/neu loeren deledu, gwifrau a socedau
  • Goriadau sydd wedi eu colli neu eu difrodi yn fwriadol
  • Difrod bwriadol i ddrysau mewnol ac allanol
  • Difrod bwriadol i baen gwydr mewn ffenestr neu ddrws
  • Difrod bwriadol i adeiladwaith mewnol neu allanol yr eiddo
  • Torri gwaelod drws ar gyfer gosod carped
  • Addurno tu mewn i'r eiddo
  • Gorchudd lloriau wedi eu gosod gan denant
  • Plygiau trydan, ffiws, bylbiau golau mewnol ac allanol, tiwbiau fflworoleuo a'u tanwyr
  • Newid batri y datgelwyr mwg a'u harchwilio yn rheolaidd
  • Gosod a chynnal peiriannau golchi, sychwyr, rhewgelloedd, oergelloedd, poptai ac offer trydan arall mae'r tenant yn berchen arnynt
  • Glanhau simdde yn rheolaidd
  • Cytiau gardd a chytiau allanol
  • Leiniau dillad yn cynnwys 'rotary lines'
  • Gerddi a gwrychoedd
  • Glanhau gwteri dŵr glaw a sinc y gegin
  • Yswirio y cynnwys

 

 

 

 


 

Lleihau Perygl o Ddifrod:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod:

  • ble mae'r tap sy'n cau eich cyflenwad dŵr [stop tap]
  • sut mae troi'r nwy i ffwrdd yn y prif dap.
  • ble mae'r bocs ffiwsiau.
  • sut i droi'r trydan i ffwrdd

    Byddwn yn dangos lleoliad y tapiau hyn i chi pan fyddwch chi'n derbyn goriadau'r eiddo. Chi sy'n gyfrifol am roi'r wybodaeth honno i bawb arall sy'n byw yn eich cartref. Dyma ychydig o wybodaeth sylfaenol:

 

Tân
Pan fyddwch chi'n symud i'ch cartref newydd, penderfynwch sut y byddwch chi'n dianc pe byddai tân. Os oes tân, gwnewch yn siwr bod pawb yn eich cartref yn gwybod sut i ddeialu 999 a ble mae'r ffôn agosaf.

Cadwch bob datguddiwr tân yn lân a gofalwch, yn rheolaidd, eu bod nhw'n gweithio. Pe byddai tân, gwnewch yn siwr bod pawb yn gadael yr eiddo ond peidiwch â pheryglu eich bywyd eich hun. Rhowch wybod i ni, cyn gynted â phosib, am y tân.

Nwy
Mae Transco ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Eu rhif ffôn yw 0800 111999

Os ydych chi'n arogli nwy, trowch y cyflenwad nwy i ffwrdd ar unwaith yn y prif dap a ffoniwch Transco.
Agorwch y drysau a'r ffenestri i gael gwared â'r nwy.
Edrychwch er mwyn gweld os oes nwy wedi cael ei adael ymlaen a hwnnw heb gael ei danio.
Gwnewch yn siwr nad oes golau peilot wedi diffodd.
Trowch bob offer nwy i ffwrdd.
Peidiwch ag ysmygu na defnyddio fflamau noeth.
Rhowch wybod i'r Gymdeithas cyn gynted â phosibl.

Dŵr
Os ydi'r pibellau yn rhewi, diffoddwch y prif dap.

Peidiwch byth â defnyddio fflam noeth i ddadmer pibell, rhowch botel ddŵr poeth arni.
Os ydi pibell yn byrstio, trowch y prif dap i ffwrdd. Er mwyn lleihau llif y dŵr sy'n colli, agorwch y tapiau dŵr oer i gyd er mwyn gwagu'r system.
Peidiwch ag agor y tapiau dŵr poeth.
Trowch y gwres canolog i ffwrdd.
Trowch y gwresogydd tanddwr [immersion heater] i ffwrdd.
Llenwch y bath hefo dŵr oer ar gyfer golchi a fflyshio'r toiled.
Os ydych chi'n mynd i ffwrdd am fwy nag ychydig o ddyddiau yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n well gadael y system gwres canolog ymlaen, ar dymheredd isel, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydi'r pibellau dŵr yn rhewi.

Trydan
Mae pobl yn defnyddio mwy a mwy o offer trydanol yn eu tai y dyddiau hyn ac mae hynny'n golygu fod angen cryn ofal er mwyn osgoi peryglon.

Os ydi'r offer trydan yn eich eiddo yn stopio gweithio, gwnewch yn siwr nad oes problem gyda'r cyflenwad. Os nad oes, gofalwch nad yw'r swits trip ddim wedi troi ei hun i ffwrdd ac nad oes ffiws arall wedi chwythu. Ailosodwch y swits trip - os ydi o'n troi ei hun i ffwrdd eto, trowch yr offeryn trydanol y buoch chi'n ei ddefnyddio i ffwrdd a rhowch gynnig arall arni. Ni ddylech newid y gwifro trydanol yn eich cartref heb gael caniatâd.