Cyfrifoldebau Tenantiaid


Addurno
Os yw'r cartref yn newydd sbon a
chi yw'r tenant cyntaf, ni ddylech addurno'r eiddo yn ystod y 12 mis
cyntaf. Ar ôl y cyfnod yma, neu os nad chi ydi'r tenant cyntaf
yn yr eiddo, gallwch addurno'r eiddo fel y mynnwch.
Chi sy'n gyfrifol am gadw tu mewn i'ch tŷ mewn cyflwr addurnedig da. Y Gymdeithas sy'n gyfrifol am y tu allan i'r tai ac am yr ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau, h.y. rhodfeydd a grisiau. Byddwn yn ail-addurno'r rhain bob pedair blynedd


Anifeiliaid Anwes
Rydym yn ymwybodol bod anifeiliaid anwes yn gallu bod yn gysur ac
yn gwmni, ac o dan reolaeth, yn ddi-drafferth. Fodd bynnag, os ydych yn
dymuno cadw anifeiliaid anwes, rhaid gofyn am ganiatâd ymlaen llaw
- e.e. i gadw ci neu gath rhaid cael cais ysgrifenedig. Cyn caniatáu
anifeiliaid, byddwn yn ystyried materion fel brîd yr anifail, ydi
o'n debyg o ddychryn y cymdogion, a fydd modd i chi ei reoli'n iawn? Er
enghraifft, os nad ydych wedi medru rheoli eich eiddo mewn ffyrdd eraill,
gall cael anifail anwes waethygu'r sefyllfa. Ni fyddwn yn fodlon rhoi
caniatâd os byddwn yn meddwl bod yr anifail neu'i gynefin yn anaddas
i'r eiddo. Eto, gyda anifeiliaid llai, fel pysgod aur neu fwji, sydd ddim
yn debygol o achosi trafferthion i'ch cymdogion, nid yw'n hanfodol i chi
ofyn caniatâd yn ysgrifenedig.
Os nad ydych yn medru rheoli eich anifail neu os byddwn ni'n derbyn cwynion,
ni fyddwch yn cael ei gadw a byddwn yn gofyn i chi ddod o hyd i gartref
arall iddo.
I lawrlwytho copi o bolisi anifeiliaid anwes y Gymdeithas, cliciwch yma.
Yswiriant
Mae dau fath o yswiriant ar gyfer
eich cartref:
Yswiriant Adeiladau -
Mae'r yswiriant yma'n ymwneud â strwythur yr adeilad - y to, y
drysau a rhai mân daclau. Y Gymdeithas sy'n gyfrifol am dalu'r
premiwm.
Yswiriant Cynnwys Cartref
- Mae'r yswiriant yma'n ymwneud â dodrefn, carpedi, llenni a'ch
meddiannau personol chi, popeth o nwyddau trydanol i eitemau personol.
Rhaid i chi dalu'r Yswiriant Cynnwys Cartref hwn. Os bydd tân,
llifogydd neu ladrad yn digwydd a chithau heb yr yswiriant hwn, gallwch
golli popeth. Nid yw pob yswiriant yn gostus ac felly RYDYM YN CYNGHORI POB UN O'N
TENANTIAID I GAEL YSWIRIANT CYNNWYS CARTREF. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yswiriant cynnwys "Fy Nghartref" Ffederasiwn Tai Cenedlaethol.
Goriadau Tŷ
Chi sy'n gyfrifol am y goriadau i'ch cartref. Nid ydym yn cadw goriadau
sbâr (ond mae gennym brif oriad ar gyfer blociau o fflatiau er
mwyn i ni fedru eu defnyddio mewn argyfyngau). Cofiwch gadw set sbâr
o oriadau mewn lle diogel. Os ydych chi'n colli eich goriadau neu'n
cloi eich hun allan yna chi sy'n gyfrifol am gael mynediad i'ch cartref.
Os bydd y Gymdeithas yn eich helpu i gael mynediad byddwch yn gorfod
talu am y gwasanaeth.