Mae gan Dinbych ddigon o dalent.
Dangosodd digwyddiad diweddar fod gan Dinbych dalent.
Trefnodd Cymdeithas Tai Clwyd gystadleuaeth Talent Dinbych ddiwedd Mehefin yn Neuadd y Dref, Dinbych fel un o ddigwyddiadau Gŵyl Ganol Haf Dinbych.
Gwyliodd dros 300 o bobl 12 o gystadleuwyr talentog yn y rownd derfynol, a datganwyd mai dyma un o’r nosweithiau gorau i Neuadd y Dref ei weld ers blynyddoedd.
Cyflwynwyd y noson gan Lisa Gwilym cyflwynydd “Y Sioe Gelf” ar S4C a DJ ar C2. Y beirniaid oedd yr actorion Llyr Evans, Iwan Charles a Gaynor Morgan Rees a seren teledu realiti, Glyn Wise.
Roedd yn benderfyniad annodd i’r beirniaid ond fe aeth y drydedd wobr i’r band o Ddinbych o’r enw 440 Hertz, yr ail wobr i grŵp dawnsio Momentwm o Ysgol Twm o’r Nant a’r enillydd oedd Angharad Heaven, 12 oed a ganodd “Good Morning Baltimore” o’r sioe gerdd Hairspray.
Mae Tai Clwyd yn falch o fod yn gysylltiedig â noswaith mor lwyddiannus, ac rydym yn gobeithio y bydd yn datblygu’n ddigwyddiad blynyddol.
Os oes gennych chi Grŵp Cymunedol tebyg yn eich ardal chi, ac os gredwch chi y gall Tîm Datblygu Cymunedol Tai Clwyd fod o gymorth, cysyllwch â ni.

