Garddwr heb ei ail

I un gŵr dewr, sialens oedd rhoi trefn ar ardd wyllt Felin Uchaf, Dolgellau! Roedd Ray Stubbs yn chwilio am brosiect i ganolbwyntio arni wedi cwblhau ei ardd ei hun, a doedd y ffaith iddo golli ei goes i gancr, ddim yn mynd i’w atal chwaith. Symudodd Ray i gartref Tai Clwyd yn dilyn ei salwch, ac wedi concro’i ardd ei hun a’i gwneud yn hwylus iddo ddefnyddio’i gadair olwyn, dyma fynd ati i berswadio ei gyd-gynghorwyr yn Nolgellau i gefnogi ei gais i gymryd yr awenau ar yr ardd gyhoeddus yn Felin Uchaf. Gyda chefnogaeth gŵr arall, Mr Faulkner, mae rhan gyntaf y prosiect wedi ei gwblhau. Gyda mwy o gymorth yn lleol, gobaith Ray Stubbs yw y bydd yr ardd yn ffrwythloni a datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

 

 

 

 



Cyn i'r gwaith gychwyn...........
Rhan gyntaf o'r project wedi ei gwblhau.....