

Cymhorthdal Datblygu Cymunedol!
A fyddech chi’n hoffi gwneud gwahaniaeth i’r ardal yr ydych yn byw ynddi? Fe allwn ni helpu! Pam na ddowch chi at eich gilydd gyda’ch cymdogion a gwneud cais am ein cymhorthdal newydd.
Eleni, rydym yn cychwyn cynllun cymhorthdal newydd lle gallwch chi a’ch cymdogion wneud cais am gymhorthdal o hyd at £500 i wella’r amgylchedd o’ch cwmpas neu i drefnu diwrnod o hwyl yn eich ardal. Mae’r cynllun hwn yn gobeithio annog grwpiau o denantiaid i ddod at ei gilydd a datblygu prosiect neu syniad a all fod o fudd i’r gymuned fechan neu’r gymuned ehangach yr ydych yn byw ynddi. Os hoffech dderbyn ffurflen gais neu mwy o wybodaeth am y cynllun cymhorthdal hwn, cysylltwch â Mair , Ffion neu Fred yn y Tîm Datblygu Cymunedol yng Nghymdeithas Tai Clwyd ar 0345 230 3140.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich syniadau!