Hen Felin

Gwibdaith 2009 - Gwynedd a Powys

Cynhaliwyd y wibdaith flynyddol ym Mhowys a Gwynedd ym mis Mai gyda chymysgedd o ymgynghoriad a gweithgareddau yn cymryd lle; gan gynnwys peintio wynebau, printio crysau t a chyfle i gwrdd â Tôni, mascot newydd Tai Clwyd.

Tros y 3 diwrnod, bu i ni siarad gyda 103 o denantiaid, sef 33% o boblogaeth ein tenantiaid o fewn y 2 Sir. Unwaith eto, profwyd yn gyfle gwych i denantiaid gwrdd â staff i drafod unrhyw broblemau wyneb yn wyneb. Eleni, am y tro cyntaf, roedd aelod o’r Tîm Rheoli yn bresennol ar bob diwrnod ac roedd y tenantiaid a’r Tîm Rheoli fel ei gilydd yn cytuno y dylai hyn ddigwydd o flwyddyn i flwyddyn.

Un o amcanion y Wibdaith yw hyrwyddo ac annog tenantiaid i roi eu henwau ymlaen i gynrychioli eu cyd-dentantiaid ar y Bwrdd Rheoli - eleni dangosodd 8 tenant ddiddordeb. Bu i ni hefyd dderbyn 30 o enwau newydd ar gyfer ymaelodi â Tai Clwyd 50 a derbyniwyd nifer o syniadau i ddatblygu prosiectau cymunedol. Roedd mwyafrif helaeth o’r tenantiaid y buom yn siarad â hwy yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth cyffredinol maent yn ei dderbyn gan Gymdeithas Tai Clwyd. Y flwyddyn nesaf, bydd y Wibdaith yn dychwelyd i Sir Ddinbych.

Gwibdaith