Tenantiaid yn chwarae gêm
Parti Bodyshop
   

Bethan Gwanas

 

Mrs Mair Evans ennillodd gystaleuaeth tyfu
Blodyn Haul eleni
Arfon ac Eirian
   

 

 

 



 

Yr Hen Felin, Dolgellau Mae’r tenantiaid sy’n byw mewn un o’n cynlluniau tai cysgodol yn Yr Hen Felin, Dolgellau wedi mwynhau ystod eang o weithgareddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r gweithgareddau, sy’n cael eu cynnal unwaith y mis, yn rhai addysgiadol ac yn rhoi cyfle i denantiaid ryngweithio a chymdeithasu. Maent hefyd yn rhoi cyfle i’r tenantiaid siarad â staff y Gymdeithas ynglŷn ag unrhyw bryderon sydd ganddynt. Ymysg y gweithgareddau a gynhaliwyd roedd cystadlaethau blodau haul, ymweliad gan Bethan Gwanas, yr awdures Gymraeg a chyflwynydd teledu, ymweliadau gan yr Heddlu a’r Frigâd Dân lleol, parti “Body Shop”, sgwrs gan Effeithlonrwydd Ynni Cymru a chyngerdd gyda chantores a thelynores leol.