Lansio'r Cae Chwarae Aml-Ddefnydd 16 Fehefin 2009
o hyn ........

 



 




 

 

Cae Chwarae Aml-Ddefnydd i Bala!

Agorwyd Cae Chwarae Aml-Ddefnydd newydd yn Y Bala Dydd Mawrth 16 Mehefin gan wyneb adnabyddus S4C, Nic Parry. Cyllidwyd y prosiect a gostiodd £48,000 gan Gymdeithas Tai Clwyd, Sefydliad y Gweithwyr Brethyn, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Mai 29 1961, CIST Gwynedd, Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (N.D.A.), Ymddiriedolaeth yr Heddlu a Chymunedau (PACT) a Chyngor Tref Bala, a bydd y bydd y cyfleusterau ar gael i’r gymuned gyfan yn rhad ac am ddim.

 

Mae’r Parc yn addas ar gyfer amryw o weithgareddau, gan gynnwys pêl-droed 5 bob ochr, pêl-rwyd, pêl-fasged, hoci a thennis mini.

 

Yn ystod yr Agoriad Swyddogol a fynychwyd gan lawer, yn cynnwys disgyblion o Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid, dywedodd Nic Parry:

 

“Bydd Cymunedau ar draws Prydain yn cenfigennu o’r cyfleuster gwych hwn. Fe ddylech fod yn falch o’ch hunain fel cymuned eich bod wedi sicrhau cymaint o etifeddiaeth ar gyfer iechyd a lles eich pobl ifanc.”

 

Dywedodd swyddog ymateb yr heddlu lleol:

 

"Mae rhai o’r ieuenctid sy’n defnyddio’r Cae wedi bod yn chwarae pêl-droed ar y stryd yn y gorffennol, roeddent yn achosi niwsans i eraill ond hefyd yn rhoi eu hunain mewn perygl. Maent bellach yn cyfarfod yn rheolaidd i chwarae pêl-droed ar y cae – felly mae’r prosiect eisoes wedi profi yn llwyddiant."

 

Cafodd y prosiect ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd, a dywedodd y Swyddog Datblygu Cymunedol, Fred Breakell:

 

"Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’r gymuned ar y prosiect hwn. Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi tynnu gyda’i gilydd i ddatblygu’r cae chwarae. Yn sicr fe fydd y budd yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod!".

 

 

 

 



 

i hyn ......