Dadorchuddio Cymeriad Newydd
Lansiwyd mascot newydd sbon Tai Clwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala ym mis Awst. Enw’r cymeriad yw Tôni, sy’n cyfuno’r geiriau ‘to i ni’, ac fe’u cyflwynwyd i fynychwyr yr eisteddfod gan ei gynllunydd, Sophie Petford, 12 oed o Ddolgellau. Sophie oedd enillydd y cystadlaethau yng nghylchgrawn ‘Cadwyn’ i ddylunio ac enwi Mascot.
Yn ôl Alwyn Llwyd , Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd: “Un rhan o’n gwaith yw cydweithio â phlant a phobl ifanc, wedi’r cyfan nhw yw cenhedlaeth y dyfodol. Ein bwriad yw defnyddio Tôni mewn gwahanol ddigwyddiadau yn y calendr blynyddol i gyfathrebu â phlant ac i gynnig cymorth a chyngor wrth drafod diogelwch yn y cartref. Bydd yn cael ei ddefnyddio i amlygu pwysigrwydd gwaith cymunedol. Rydym yn llongyfarch Sophie ar ei llwyddiant ac yn hynod falch gyda’r cynnyrch terfynol, yn arbennig felly gan mai ni yw’r gymdeithas dai cyntaf yng Nghymru i gael mascot.”
Derbyniodd Sophie £50 a phecyn celf a chrefft am enwi a chynllunio Tôni. Gwyliwch allan am Tôni dros y misoedd nesaf, wrth iddo fynd o gwmpas gyda’r Tîm Datblygu Cymunedol. Mae Tôni eisoes wedi bod yn brysur yn ystod ein gwibdaith a’r diwrnod tenantiaid!

