Llwyddiant Tai Clwyd

Yng ngwobrauTPAS a gynhaliwyd yn Llandudno ar Ddydd Gwener Mai 1af 2009, llwyddodd Tai Clwyd i gipio dwy wobr, gan ddod yn ail yng nghystadleuaeth ‘Cyfathrebu mewn Tai yng Nghymru, Val Feld’ a chystadleuaeth ‘Prif ffrydio Cyfranogiad Tenantiaid, Roy Parry’.

Derbyniwyd y cyntaf o’r ddwy wobr am gynhyrchiad y cylchlythyr hwn sy’n cael ei gynhyrchu gan y Grŵp Cyhoeddusrwydd o fewn Tai Clwyd. Mae’r cylchlythyr yn gyfrwng holl bwysig i’n galluogi i roi adborth a chyfathrebu gyda chi. Tros y misoedd nesaf, rydym yn gobeithio sefydlu Grŵp Golygyddol a fydd yn cynnwys tenantiaid i ddatblygu’r cylchlythyr ymhellach.

Derbyniwyd yr ail wobr am brif ffrydio Datblygu Cymunedol a Chyfranogiad Tenantiaid o fewn y Gymdeithas. Mae ein hymrwymiad i hyn i’w weld yn ein strwythur staffio a’r cynllun strategol sy’n ein galluogi i weithio tuag at brif ffrydio Cyfranogiad Tenantiaid ar draws gwaith y Gymdeithas. Mae hyn yn amlwg trwy ein Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid, Hyrwyddwyr Cyfranogiad Tenantiaid, Hyfforddiant i Denantiaid, Gwibdeithiau, Diwrnodau Tenantiaid, Clwb Tai Clwyd 50 ac ethol 4 tenant ar y Bwrdd Rheoli. Rydym wedi cynyddu ein cyllideb Cyfranogiad Tenantiaid, wedi cynnal awdit o sgiliau staff er mwyn adnabod sgiliau a all gynorthwyo gyda gweithgareddau Cyfranogiad Tenantiaid ac rydym yn y broses o adolygu pob swydd ddisgrifiad i gynnwys ymwybyddiaeth a chyfrifoldebau Cyfranogiad Tenantiaid. Mae’r holl waith yn ymwneud â Chyfranogiad Tenantiaid a Datblygu Cymunedol yn cael ei fonitro a’i archwilio gan y Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid a’r Bwrdd Rheoli er mwyn sicrhau ei fod yn parhau yn rhan annatod o’r Gymdeithas yn ei gyfanrwydd.