Llwyddiant i’r Gweithgor

Cafodd y Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid newyddion gwych yn ddiweddar pan glywsant fod y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a’r Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd ganddynt i’r Gymdeithas yn un o’r goreuon yn y wlad. Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu TPAS Cymru i asesu’r holl Strategaethau Cyfranogiad Tenantiaid gan holl gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ar draws Cymru (cyfanswm o 60) yn ystod misoedd yr haf. Roedd y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu yn derbyn y cyfraddau sgor â ganlyn: 1= da, 2= boddhaol a 3 = gwael. Dyma oedd sgor Cymdeithas Tai Clwyd:

Da

Boddhaol

Gwael

19

5

1

Roedd y sgor yn gyffredinol ar draws Cymru yn amrywio o 28 – 78, y sgor isaf yw’r gorau a’r sgor canolig yn 49. Sgoriodd Cymdeithas Tai Clwyd 32 o bwyntiau a dywedodd yr aseswyr mai dyma un o’r strategaethau gorau i gael eu hasesu a gwnaed cais i gael defnyddio ein strategaeth ni fel ymarfer da i eraill gael ei ddefnyddio. Llongyfarchiadau i bawb sydd ar y Gweithgor am eu hymdrech ac mae hyn yn amlygu’n glir fod Cymdeithas Tai Clwyd yn rhoi eu tenantiaid ar frig yr agenda.