DISGO TENANTIAID
Ar y 9fed o Dachwedd 2009 cynhaliwyd disgo arall yng Ngwesty Parc Beaufort, Yr Wyddgrug. Fe’i cynhaliwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf. Trefnwyd y disgo ar gyfer tenantiaid sydd ag anghenion cefnogaeth, a bu iddynt fynychu gyda’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Yn ystod y noson, roedd cyfle i’r tenantiaid roi eu barn ynglŷn â’r tŷ maent yn byw ynddo a’r Gymdeithas yn gyffredinol, a chafwyd adloniant a raffl.
O’r rhai a ymatebodd i’n holiadur:-
dywedodd 100% eu bod yn hoffi’r tŷ maent yn byw ynddo.
Eleni, am y tro cyntaf, trefnodd Cymdeithas Tai Clwyd Gystadleuaeth Celf i’r tenantiaid. Gofynnwyd i denantiaid ddweud wrthym am eu cartref, anifail anwes neu staff ar ffurf peintiad, dyluniad, pennill, stori, llun neu fideo. Cyflwynwyd y wobr i Maureen Jones am gyfres o 3 peintiad o’r tŷ mae hi’n byw ynddo.

Dyddiad i’ch dyddiaduron!
Gwyliwch allan am y gwahoddiadau i’r disgo nesaf a gynhelir ar y 6ed o Fai 2010. Bydd cystadleuaeth arall yn cael ei drefnu hefyd.