Holiadur Bodlonrwydd Tenantiaid 2008

Mae mwyafrif o tenantiaid Cymdeithas Tai Clwyd yn
fodlon gyda’u cartref a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gymdeithas.
Y gyfradd ymateb oedd 30% o’r tenantiaid a
dderbyniodd holiadur, gyda 468 o’r 1571 o holiaduron wedi eu dychwelyd, sy’n uwch na’r
cyfartaledd ar gyfer arolwg drwy’r post. Mae hwn
i’w gymharu â 36% a gafodd eu dychwelyd yn
2005. Felly mae’r adroddiad yma wedi’i seilio ar y
468 o holiaduron a ddychwelwyd erbyn y dyddiad
cau.
Gofynnwyd cwestiynau a oedd yn ymwneud â’r pynciau â ganlyn, ac mae crynodeb o’r ymatebion i’w weld isod:
Bodlonrwydd gyda’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gymdeithas :
Cyswllt gyda’r Gymdeithas:
Bodlonrwydd gyda’r cartref

Bodlonrwydd gyda’r gymdogaeth
84% yn fodlon gyda’u cymdogaeth ond yn nodi fod y canlynol yn broblem fechan neu’n broblem fawr:
Gwasanaeth trwsio a chynnal a chadw yn gyffredinol
Bodlonrwydd hefo gwaith trwsio a chynnal a chadw

Ymgynghori â thenantiaid
Yn gyffredinol, fe welwch fod yr ymateb wedi bod yn bositif iawn, er bod y lefel bodlonrwydd ychydig yn is nag yn 2005. Un rheswm posibl tros hyn yw bod yr holiaduron wedi cael eu cwblhau yn ddienw y tro hwn, ond yn 2005 gofynnwyd i’r tenant nodi enw a chyfeiriad ar yr holiadur.
Roedd Tenantiaid Siroedd Wrecsam a Fflint yn gyffredinol yn llai bodlon na thenantiaid o Siroedd eraill – byddwn yn ymchwilio i hyn ac yn ceisio darganfod pam yn ystod y wibdaith ym mis Mehefin.
Er mai dim ond nifer fechan ohonoch a adroddodd
am aflonyddwch hiliol, credwn fod hyn yn annerbyniol, ac rydym yn y broses o ddyfeisio
ffurflen er mwyn i’n tenantiaid allu adrodd am
achosion o’r fath.
Cafodd enw pawb a ddychwelodd yr holiadur ei roi
mewn het am gyfle i ennill £150. Yr enillydd oedd
Mr Arwel Davies o Ddinbych.
Roedd Arwel yn diolch yn fawr am y wobr, ac yn
gwerthfawrogi gwaith y Gymdeithas. Dywedodd ei
fod yn falch nad oedd yn gorfod cael tynnu ei lun!
Mae o am brynu system hi-fi hefo’r wobr.