Mewn partneriaeth â :



 




 

 


 

 

 



 

 

 

 

 

Gwybodaeth Bus Stop
Beth yw Bus Stop ?

Uned wybodaeth deithiol yw Bus Stop ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-25. Mae'n teithio i ysgolion, stadau tai a threfi ledled Conwy yn darparu gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau megis:

Tai
Iechyd yn gyffredinol ac iechyd rhywiol
Cyfraith a hawliau
Iechyd meddwl
Cyffuriau ac alcohol
Bwlio
Yr amgylchedd
Cyflogaeth a hyfforddiant

Ein Datganiad Craidd

“ Mae’r Bus Stop yn wasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim, sy’n darparu gwybodaeth ddiduedd, anwahaniaethol, perthnasol a chynhwysfawr i bobl ifanc Sir Conwy, er mwyn rhoi grym iddynt wneud dewisiadau bywyd deallus a phositif. “

Ble mae Bus Stop?

Os ydych am gael gwybod ble i ddod o hyd i ni edrychwch ar yr amserlen ar ein gwefan
www.the-busstop.co.uk

Cysylltu â Bus Stop:

Ffôn/Testun : 07733 012993/07884 112035
E-bost:
info@the-busstop.co.uk