Prosiect Cae Tŷ Du
Mae’r grŵp, yn cynnwys y plant, wedi gweithio’n galed ar y tir ac wedi treulio oriau yn barod yn chwarae a gweithio yno. Mae’r prosiect eisoes wedi cael effaith mawr ar fywyd y plant. Maent wedi dysgu sgiliau newydd gan eu bod wedi bod yn rhan o bob cam o’r prosiect, er enghraifft maent wedi plannu coed a llwyni (sydd yn denu bywyd gwyllt), chwynnu ac adeiladu waliau cerrig sych ayb. Maent hefyd wedi cael cymryd rhan yn y broses dylunio wrth ddewis offer chwarae a chynllun y safle. Mae rhai o’r plant h ŷ n wedi bod yn aelodau o’r pwyllgor! Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant gan fod y plant wedi dysgu cymaint â wedi mwynhau gweithio ar y tir. Mi fydd hefyd yn cynnig safle diogel i’r plant gael chwarae a gweithio ac yn cynorthwyo i leddfu diflastod a chadw’r plant o’r strydoedd, ac felly yn cael effaith bositif ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cafodd y prosiect ei orffen yn Medi 2006.
