Clwb 50 Cymdeithas Tai Clwyd

 

 

Beth yw Clwb 50?
Panel tenantiaid yw'r clwb a fydd yn cael y cyfle i roi sylwadau ar bob math o faterion, boed yn broblemau perthnasol i'ch ardal chi, mentrau newydd o'r Cynulliad neu newidiadau yn nholisiau a gweithredoedd y Gymdeithas.

Pam ddylwn i ymuno?
Er mwyn i ch i gael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau sydd yn effeithio ar eich cartrefi a'ch cymuned.

Sut fedra'i ymuno?
Os ydych yn denant, cysylltwch â ni nawr.

 

 

 



Mae pob aelod yn cael y cyfle i enill gwerth £50 o dalebau'r stryd fawr.


Diwrnod Ymgynghori Clwb 50 Tai Clwyd 2007

Cafodd holl aelodau Clwb 50 Tai Clwyd wahoddiad i fynychu Diwrnod Ymgynghori yn Llangollen ar y 27ain o Dachwedd 2007. Daeth tros 20 o denantiaid ynghyd o bob rhan o’n hardal weithredu gan gynnwys, Fflint, Dinbych, Llansilin, Bala a Llangollen.

Yn ystod y prynhawn, ymgynghorwyd ar nifer o faterion gan gynnwys ein Polisi Rhent, Polisi Gosod, Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Cynnal a Chadw (gan gynnwys Adolygiad Gwerth Gorau a Safon Ansawdd Tai Cymru). Roedd Cymdeithas Tai Clwyd yn hynod ddiolchgar am y sylwadau a’r adborth a dderbyniwyd. Hoffem ddiolch i holl aelodau’r grŵp am eu cyfraniad ar y diwrnod ac am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn yn cwblhau holiaduron ar wahanol bolisïau a gweithdrefniadau. Darparwyd pryd 3 chwrs i bawb ar ddiwedd y dydd.

Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath ar gyfer y Clwb 50, ac oherwydd ei lwyddiant a’r adborth bositif a dderbyniwyd (100%) byddwn yn cynnal diwrnod fel hyn yn flynyddol.

  Nôl