Diwrnod Tenantiaid 2007
Roedd Diwrnod Tenantiaid Cymdeithas Tai Clwyd, a gynhaliwyd eleni yng Nghanolfan Hamdden Dinbych ar yr 2il o Awst y gorau hyd yma! Gyda 105 o denantiaid yn bresennol a 53 o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, roedd yn ddiwrnod hynod boblogaidd gyda’r ifanc a’r rhai hŷn, gyda mwy o denantiaid yn mynychu nag erioed o’r blaen. Derbyniodd pob tenant wahoddiad trwy’r post hefo bonyn ymateb a cafwyd ymateb gwch gyda dros 200 o gardiau yn cael eu dychwelyd.
Roedd gweld cymaint o denantiaid yn mynychu yn beth braf iawn, ac o’r adborth a dderbyniwyd, roedd y diwrnod wedi bod yn llwyddiannus, gyda’r oedolion yn mwynhau amrywiaeth o weithdai ymarferol, cyflwyniadau gan bobl berthnasol o fewn y maes a chwis ysgafn. Fe gafodd y plant ddiwrnod llawn o brofiadau newydd, y plant lleiaf yn mwynhau stori ar gân, Bws Hwyl a chyfarfod eu ffefrynnau o fyd y teledu, Sam Tân a Sali Mali a sioe bypedau. Cafodd y plant hŷn flas ar hip hop gyda Ed Holden, o’r band Cymraeg “Y Genod Droog” mewn gweithdy ymarferol arbennig.
Roedd llawer o bartneriaid Tai Clwyd yn bresennol a chynrychiolaeth eang o asiantaethau hefyd, ar gael i roi cyngor a chymorth i denantiaid.
Cafodd y Gymdeithas gyfle i ymgynghori a’r tenantiaid yn ystod y diwrnod a’r faterion cynnal a chadw, y cylchlythyr a gofynwyd iddynt beth fyddai yn eu annog i gyfranogi mwy yng ngweithgareddau’r gymdeithas.
Derbyniwyd adborth calonogol iawn gan y tenantiaid ac maer’r ffurflenni gwerthuso yn adlewyrchu hyn. Ar y cyfan cafwyd ddiwrnod llwyddiannus iawn lle gwelwyd budd i’r tenantiaid a’r gymdeithas fel ei gilydd. Roedd y cyhoeddusrwydd yn y papurau lleol eto yn adeiladu ar ddelwedd bositif y Gymdeithas.
