Diwrnod Tenantiaid 2008

Daeth Pencampwr Dartiau’r Byd Mark Webster, 24, draw i agor Diwrnod Tenantiaid blynyddol Cymdeithas Tai Clwyd yng Nghanolfan Hamdden Dinbych yn ddiweddar. Cafodd yr arwr lleol groeso brwd wrth iddo ddiolch i’r tenantiaid ar draws y gogledd am eu cefnogaeth iddo ers ennill teitl Pencampwriaeth Dartiau’r Byd ym mis Ionawr eleni.

Bu nifer o siaradwyr gwadd yn cynnig cyngor i denantiaid yn ystod y diwrnod, gan gynnwys Dave Lloyd o TPAS Cymru, y corff sy’n arwain ym maes cyfranogiad tenantiaid yng Nghymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a Siân Bennett o Her Iechyd Cymru. Yn ystod y bore cynigiodd Her Iechyd Cymru arweiniad ar fwyta’n iach a sicrhau ein bod yn cadw’n heini. Amlygodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu gwasanaeth rhad ac am ddim i gynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref, i bobl leol, a’r pwysigrwydd o osod larymau mwg yn y cartref, a’u gwirio’n wythnosol.

Cymrodd y plant ran mewn gweithgareddau drama, dweud stori, peintio wynebau, chwaraeon gan gynnwys, hoci, tenis a phêl droed, a daeth y Bws Hwyl draw am dro i’w diddanu yn yr awyr agored.

Bu’r gystadleuaeth sy’n efelychu’r rhaglen deledu ar Channel 4, ‘Scrapheap Challenge’, yn hwyl garw yn ystod y prynhawn, gyda’r plant a’r oedolion yn cymryd rhan ac arddangos eu dyfeisgarwch peirianneg!

Roeddem yn hynod falch o weld cynifer o bobl yn mynychu’r digwyddiad yma, o’r plant i’r genhedlaeth hŷn. Mae’n ffordd wych o ddod â phawb at ei gilydd i gymdeithasu, i drafod, ac i ddatblygu syniadau newydd.

 


 

 

 



  Nôl