Cynhaliwyd y Diwrnod Tenantiaid eleni yng Nghanolfan Chwaraeon Llanelwy ar Ddydd Mawrth Awst 11eg a brofodd i fod y diwrnod mwyaf llwyddiannus eto! Mynychodd mwy o denantiaid nag erioed, cyfanswm o 177, gyda rhai yn teithio o cyn belled ag Aberdyfi a Llanrhaeadr ym Mochnant.
Roedd nifer o’n partneriaid yn bresennol i gynnig cyngor a chefnogaeth ar y gwahanol stondinau a chynhaliwyd gweithdai gan ein siaradwyr gwadd ar Gynhwysiad Ariannol, Cynghorion Amgylcheddol ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Yn y brif neuadd roedd Cornel Iechyd a oedd yn cynnwys prawf ffitrwydd ar gyfer y plant, profion pwysau gwaed a chyfle i flasu rhai smŵddis ffres, Cornel Crefft a Chornel Harddwch lle cafodd y tenantiaid fwynhau peth maldod. Trwy gydol y bore, mwynhaodd y plant weithgareddau megis peintio wynebau, gwneud bathodynnau, trampolîn a chromen bownsio a chymryd rhan yn y gystadleuaeth printio crys-t, tra y bu rhai pobl ifanc yn rhoi cynnig ar hip hop gyda Ed Holden o’r Band Cymraeg ‘Y Genod Droog’ mewn gweithdy ymarferol arbennig.
Ar ôl cinio bu i bawb ymgynnull yn y theatr ar gyfer Cystadleuaeth ‘Talent Tai Clwyd’ o dan arweiniad yr actor Llyr Evans ( Twin Town ). Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn a phenderfynodd y beirniaid mai’r enillydd teilwng, ac yn derbyn siec am £150 oedd Luke McCall o’r Bala a ganodd Anthem o’r Sioe Gerdd “Chess”. Aeth yr ail wobr i Yasmin Kovacs o Ddinbych a’r drydedd wobr i Sarah Jones Wallace o Rhuthun.
Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb a fynychodd y diwrnod. Heb eich cefnogaeth chi i’n gweithgareddau, ni fyddai’r diwrnod wedi bod yn gymaint o lwyddiant.
