Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid
Yn dilyn adolygiad Gwerth Gorau o’r tîm Datblygu Cymunedol yn un o’r awgrymiadau oedd sefydlu Gweithgor Cyfranogiad gyda chynrychiolaeth o denantiaid, aelodau o’r Bwrdd a Staff o wahanol adrannau o fewn y gymdeithas. Yn mis Ionawr anfonwyd holiadur i bob tenant i weld os oedd ganddynt ddiddordeb mewn ymuno a’r gweithgor, ac i dderbyn eu sylwadau ac awgrymiadau am weithgareddau a phrosiectau yr hoffent weld yn eu cymunedau. Cafwyd ymateb gwych ac yn dilyn hyn cynhaliwyd y Gweithgor cyntaf ym mis Chwefror. Mae’r tim datblygu cymunedol yn atebol i’r gweithgor a bydd y tim yn cyflwyno adroddiad o’i gweithgareddau yn rheolaidd. Ar hyn o bryd mae’r aelodau yn dilyn cwrs hyfforddiant sydd yn cael ei arwain gan TPAS Cymru i’n cynorthwyo hefo’r Strategaeth Cyfranogiad Lleol.
Mae aelodau’r grŵp fel a ddilyn: 5 tenant, 3 aelod o’r bwrdd (2 ohonynt yn denantiaid), a 6 staff sy’n cynrychioli adrannau gwahanol o fewn y gymdeithas.
