Gwibdaith Sir Ddinbych 5-8 Mehefin 2007
Cawsom wythnos hynod o braf ar gyfer ein gwibdaith eleni a chyfle i sgwrsio ac ymgynghori hefo’n tenantiaid yn yr haul poeth. Eleni aeth y wibdaith o amgylch Sir Ddinbych hefo’r bwriad o annog ein tenantiaid i roi eu henwau ymlaen i fod ar Fwrdd Rheoli’r gymdeithas. Cawson ymateb gwych gyda 6 tenant yn rhoi eu henwau ymlaen a llongyfarchiadau mawr i Joyce Crimp o Gorwen a gafodd y canran uchaf o’r pleidleisiau a phob lwc iddi yn cynrychioli tenantiaid Sir Ddinbych ar fwrdd rheoli Cymdeithas Tai Clwyd. Roeddem yn falch iawn hefyd o gael y pleser o gwmni Sam Tân hefo ni eleni a gobeithio y gwaniff ymuno â ni eto yn y dyfodol!

