Gwyl Ganol Haf Dinbych 2007

Cystadleuaeth Rygbi Cwpan y Byd

Bore Sadwrn fel rhan o weithgareddau’r ŵyl, trefnwyd cystadleuaeth rygbi tag yng Nghlwb Rygbi Dinbych. Roedd hi’n fore hwyliog dros ben hefo 12 o dimau yn cystadlu, 6 tîm cynradd a 6 tîm uwchradd. Cafwyd cynrychiolaeth o Ruthun, Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Cefn Meiriadog, Nant Conwy, Bryn Teg, Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Brynhyfryd. Roedd pob tîm yn cael dewis pa wlad yr hoffent ei chynrychioli ac roeddynt yn cael crys -t i gynrychioli’r wlad honno. Cafodd pob tîm gyfle i chwarae yn erbyn ei gilydd, 5 gem i gyd ac roedd y safon yn uchel iawn, rhai timau yn chwarae hefo’i gilydd am y tro cyntaf. Wedi tair awr o chwarae daeth y timau canlynol i’r brig: Cynradd, Seland Newydd (Nant Conwy) yn erbyn De Affrica (Rhuthun), a’r Uwchradd, tîm Steffan yn erbyn tîm Cymi, y ddau dîm o Ysgol Glan Clwyd. Cafwyd dwy ffeinal hynod o gyffrous ond De Affrica a thîm Steffan oedd yn llwyddiannus yn y diwedd ac yn cipio’r teitl Cwpan Y Byd Gŵyl Ganol Haf Dinbych 2007. Mi wnaeth Rowland Phillips gyflwyno’r gwobrau, a cafodd pawb gyfle i gael llun hefo Rowland yn ystod y bore. Diolch i’r holl dimau am gystadlu, i Clwb Rygbi Dinbych am gynnal y gystadleuaeth ac i Gymdeithas Tai Clwyd am drefnu a noddi'r diwrnod.

 

 

 



  Nôl