Gweithgareddau'r Hen Felin
Bydd tenantiaid Yr Hen Felin , Dolgellau, yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y misoedd nesaf. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis bydd Cymdeithas Tai Clwyd yn trefnu gweithgaredd iddynt yn eu hystafell gymunedol. Dydd Mercher 7fed o Fawrth 2007 oedd lansiad y cynllun newydd yma, a chafodd y tenantiaid gyfle i ffarwelio a’r Prif Weithredwr Mr John Glyn Jones a ymddeolodd ddiwedd mis Mawrth, hefyd cafwyd y cyfle i gyfarfod y Prif Weithredwr newydd Mr Alwyn Llwyd dros ychydig bach o ginio. I ddilyn cafwyd arddangosfa flodau gwych gan Mrs Brenda Parry, un o denantiaid Yr Hen Felin a phawb wedi mwynhau yn fawr iawn. Bydd amrywiaeth o weithgareddau dros y misoedd nesaf gan gynnwys, yoga traed a dwylo, siaradwyr gwadd, cwis a thrip i Bala am ginio yn yr haf!