Gweithiwr Allanol i’r Ieuenctid Digartref

 

 

 

 

 



Mae swydd Gweithiwr Allanol i’r Ieuenctid Digartref yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai Clwyd a Gwasanaethau Tai Conwy. Crëwyd y swydd i hyrwyddo cyfranogiad pobl ifanc yn y gwasanaethau sy’n cael effaith ar eu bywyd dydd i ddydd, o gydnabod fod pobl ifanc yn aml yn cael eu hestroneiddio o systemau o’r fath, arwydd o ddieithrio cymdeithasol ehangach. Er bod y swydd wedi ei chreu yn y lle cyntaf mewn ymateb i ddigartrefedd fel y ffurf fwyaf eithafol o ddieithrio, nid yn unig mae’r gwaith wedi sefydlu strategaeth ragweithiol mewn ymateb i ddigartrefedd ieuenctid, ond hefyd wedi datblygu prosiectau sy’n dod â chymunedau - ac asiantaethau - at ei gilydd, yn ogystal ag annog pobl ifanc i weithio gydag eraill i wella’r ardaloedd maent yn byw ynddynt.

Dyma esiamplau o waith cyfranogiad:

Diwrnodau hyfforddiant cyfranogiad sy’n galluogi pobl ifanc sy’n ddigartref, neu sydd wedi profi digartrefedd, i ddod at ei gilydd i ddatblygu’r sgiliau maent ei angen i sicrhau fod eu lleisiau hwy yn cael eu clywed ar lefel gwneud penderfyniadau.

Sicrhau fod pobl ifanc sy’n derbyn eiddo tros dro gan Gwasanaethau Tai Conwy yn cael cyfle i gyfranogi ar lefel cenedlaethol, trwy ddatblygu cysylltiadau gyda Grŵp Diddordeb Penodol Funky Dragon ar gyfer pobl ifanc digartref.




Mae 8 o bobl ifanc digartref yn ddiweddar wedi cwrdd ag aelodau Pwyllgor Adfywio a Chyfiawnder Cymdeithasol y Cynulliad i drafod eu profiadau o ddigartrefedd fel y gellir bwydo’r wybodaeth i adolygiad presennol y Pwyllgor o ddigartrefedd ieuenctid. Mae’r wybodaeth yma wedi cael ei gasglu ac yn cael ei ddefnyddio i amlinellu’r bylchau ac i wneud argymhellion mewn adroddiad gan y Pwyllgor, ‘Everybody’s business, no-one’s responsibility’.

 

 

 

 

Bu i 16 o bobl ifanc gymryd rhan mewn adolygu Strategaeth Digartrefedd Conwy. Trefnwyd diwrnod ymgynghori i sicrhau fod y bobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori ochr yn ochr â’r Rheolwr Strategaeth Tai, staff yr Adran Dai a chynrychiolwyr o blith sefydliadau/asiantaethau perthnasol eraill.

Mae Conwy yn adolygu ac yn diweddaru’r eiddo dros dro maent yn ei ddarparu i bobl ifanc i’w galluogi hwy i gwrdd â safonau newydd ar gyfer llety dros dro yn ôl gofynion LLCC, ac yn ddiweddar ymgynghorwyd ar brosiect byw â chefnogaeth arfaethedig ar gyfer pobl ifanc 16 - 25 mlwydd oed. Er mwyn i bobl ifanc digartref gael bwydo i mewn i’r broses ymgynghori, cysylltodd y Gweithiwr Allanol â nifer o brosiectau byw â chefnogaeth o fewn gogledd Cymru a threfnwyd i ymweld â hwy fel y gallai’r bobl ifanc gael cyfle i ofyn cyfres o gwestiynau ynglŷn â sut oedd y prosiectau yn cael eu rhedeg. Roedd hyn yn galluogi’r bobl ifanc i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n ymarferol wrth redeg prosiect byw â chefnogaeth a beth y gellid a beth na ellid ei ystyried pan agorir prosiect yng Nghonwy.

Ar Fehefin y 1af 2006 aeth 3 o bobl ifanc a’r Gweithiwr Allanol i ddiwrnod tystiolaeth yn y Rhyl. Roedd y digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Shelter Cymru, asiantaeth ymgynghorol tai, sydd ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad annibynnol i dai gwael a digartrefedd, sy’n cael ei arwain gan banel o Gomisiynwyr. Bydd canlyniad yr ymchwiliad, a fydd yn cael ei gynnal ar draws Cymru, yn cael ei gyhoeddi mewn adroddiad yn gynnar yn 2007.

  Nôl  

Datblygiad DVD a gynhyrchwyd gan bobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref, sy’n galluogi pobl ifanc i drafod y materion maent yn ei wynebu pan faent yn ddigartref ac i gynnig awgrymiadau ynglŷn â sut i wella’r gwasanaethau maent yn ei dderbyn trwy gyfrwng celf, cerddoriaeth a fideo.

Un o’r awgrymiadau gan y bobl ifanc yn y DVD i wella gwasanaethau oedd datblygu cynllun hunan-adeiladu/adnewyddu yng Nghonwy. O ganlyniad, mae prosiect peilot ar y gweill gan Gwasanaethau Tai Conwy, sy’n darparu cyfle i bobl ifanc digartref sydd yn ddi-waith i gymryd rhan mewn adnewyddu eu llety symud ymlaen eu hunain. Ar hyn o bryd, mae 2 berson ifanc yn cael eu cyflogi mewn prosiect adnewyddu, ac mae 4 arall yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.