Cafodd y cynllun hwn ei lansio ym mis Mawrth 2006 pan agorwyd Canolfan Gwybodaeth Pobl Ifanc mewn siop ar Stryd Fawr Rhuddlan. Nôd y prosiect yw mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref a chyfrannodd y Gymdeithas swm o arian a thri chyfrifiadur at y cynllun. Amcanion y ganolfan yw cyfarparu pobl ifanc hefo sgiliau byw ymarferol i’w galluogi i fod yn oedolion mwy cyfrifol a all chwarae rhan allweddol yn eu cymunedau. O fewn y siop gall staff gyfarfod y bobl ifanc mewn awyrgylch lle nad ydynt yn cael eu barnu a chynnig cefnogaeth iddynt. Y partneriaid eraill fu’n rhan o’r fenter yw Adran Ieuenctid Cyngor Sir Ddinbych, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cyngor Tref Rhuddlan, Heddlu Gogledd Cymru a Chynllun Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl.

 

Siop Gwybodaeth Pobl Ifanc Rhuddlan


 

 

 



Mae llwyddiant y siop yn ystod y flwyddyn gyntaf yn amlwg wrth i ni edrych ar y nifer fawr o ieuenctid sydd yn ymweld ar siop yn rheolaidd. Does dim amheuaeth pa mor bwysig ydi’r cynllun yma i ieuenctid Rhuddlan ac i’r dref yn gyffredinol a gobeithiwn y cawn y gefnogaeth ariannol i barhau am flynyddoedd i ddod.
  Nôl