Prosiect Y Friog

Mae’r tîm Datblygu Cymunedol yn dechrau llawer o brosiectau o fewn y gymuned ond yn ogystal meant yn cefnogi prosiectau sydd yn barod yn bodoli er mwyn sicrhau llwyddiant hir-dymor y prosiect.

Mi wnaeth y gymdeithas gyd-weithio’n agos gyda’r grŵp FRAKAS (Fairbourne Recreational And Kids Action Society) i greu maes chwarae newydd yn Friog, ger Dolgellau. Cefnogwyd Cymdeithas Tai Clwyd y prosiect hwn drwy wneud cyfraniad ariannol a hefyd drwy fynychu cyfarfodydd rheolaidd yn cynnig cyngor a chymorth pan fod angen. Agorwyd y maes chwarae ym mis Mehefin 2005 hefo trên stem y Friog, yn llawn o blant a phobl ifanc y gymuned yn dyst i’r agoriad swyddogol.


 

 

 



  Nôl