Diwrnod Tenantiaid 2007 – y gorau hyd yma!
2 Awst 2007

Roedd Diwrnod Tenantiaid Cymdeithas Tai Clwyd, a gynhaliwyd eleni yng Nghanolfan Hamdden Dinbych ar yr 2il o Awst y gorau hyd yma! Gyda 100 o denantiaid yn bresennol a 50 o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, roedd yn hynod boblogaidd gyda’r ifanc a’r hŷn, gyda mwy o denantiaid yn mynychu nag erioed o’r blaen.

Dywedodd Gwynne Jones, Cymdeithas Tai Clwyd: “ Mae’r dasg o drefnu’r diwrnod yn un aruthrol, ac mae’n wych gweld cymaint o denantiaid yma heddiw. O’r ymateb rydym wedi ei dderbyn, mae’r diwrnod wedi bod yn llwyddiannus, gyda’r oedolion yn mwynhau amrywiaeth o weithdai ymarferol, cyflwyniadau gan bobl berthnasol o fewn y diwydiant a chwis ysgafn. Fe gafodd y plant ddiwrnod llawn o brofiadau newydd, y plant lleiaf yn mwynhau stori ar gân, Bws Hwyl a chyfarfod eu ffefrynnau o fyd y teledu, Sam Tân a Sali Mali. Cafodd y plant hŷn flas ar hip hop gyda Ed Holden, o’r band Cymraeg “Y Genod Droog” mewn gweithdy ymarferol arbennig

.

Dywedodd Hannah Jones, 15 sy’n mynychu Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst: “Roedd y gweithdy hip hop yn wych. Roedd yn hollol wahanol i unrhyw beth dwi wedi ei drio o’r blaen. Y rhan gorau i mi oedd cael cymryd rhan, a chael tro ar ychydig o hip hop fy hun, o flaen fy ffrindiau - roedd o’n cŵl!

Fel rhan o nod Cymdeithas Tai Clwyd i geisio annog tenantiaid i gymryd rhan yng ngwaith y Gymdeithas, mae’r diwrnod tenantiaid yn profi i fod yn ased gwerthfawr i’r Gymdeithas sy’n gweithio gyda thenantiaid yn Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Wrecsam, Powys a De Gwynedd.

Roedd llawer o bartneriaid Tai Clwyd yno hefyd, ar gael i roi cyngor a chymorth i denantiaid. Gosodwyd stondinau yn y Ganolfan Hamdden gan bartneriaid megis Heddlu Gogledd Cymru, Twf, Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac Undeb Credyd Caledfryn.

Dywedodd Gwynne Jones: “Rydym yn hynod ddiolchgar i staff Tai Clwyd am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth drefnu’r diwrnod. Hefyd, rydym yn diolch i’n partneriaid sy’n cynnig cefnogaeth gyda phopeth yr ydym yn ei wneud. Ac wrth gwrs, heb ddiddordeb parhaol y tenantiaid yn ein gweithgareddau, ni fyddai’r diwrnod wedi bod yn llwyddiant syfrdanol!”