Codiad o 180% mewn tŷ pâr yn Sir Ddinbych
15 Awst 2007

Mae pris tŷ pâr cyffredin yn Sir Ddinbych, wedi codi 180%, mewn pum mlynedd. Yn 2001, roedd tŷ pâr yn Crud y Castell, Dinbych yn costio £46,500. Eleni, pum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r un tŷ’n costio £130,000. A chyda dim ond codiad ar gyfartaledd o 4.8% mewn cyflog, yn 2001 roedd cyflog ar gyfartaledd yn £14,500 o’i chymharu â £15,201 llynedd, mae hi’n argoeli’n dywyll iawn ar y rhai hynny sy’n breuddwydio am fod yn berchen cartref eu hunain. Dyna’r broblem sy’n wynebu cannoedd o rieni sengl, cyplau, a theuluoedd ifanc sydd am gychwyn ar ysgol y farchnad dai yma yng ngogledd Cymru.

Mae prinder difrifol o tua 33,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl gwaith ymchwil. Amcangyfrifir bod angen treblu’r grant presennol o £80 miliwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn adeiladu oddeutu 5,000 o dai ychwanegol y flwyddyn. Dyna wir faint y galw am dai yma yng Nghymru.

“Mae’n anodd dychmygu lle y byddwn ni ymhen chwe blynedd arall, os bydd y farchnad dai yn parhau fel ag y mae hi wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf,” eglura Alwyn Llwyd, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, “ oherwydd y cynnydd anghynaladwy mewn prisiau tai nid oes posib i bobl ar incwm isel allu fforddio prynu tŷ. Erbyn hyn mae lluosydd pris i incwm ar gyfartaledd dros 5 i 1. Mae’r broblem, fel y gallwch ddychmygu, yn waeth yng nghefn gwlad Cymru.”

Gyda thros 20,000 o bobl yn ddigartref yng Nghymru, mae’r broblem eiddo yn cael effaith ar y bobl fwyaf anghenus o fewn cymdeithas.

“Rydyn ni fel cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu dros 70,000 o dai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu (Cynllun Cymorth Prynu) ac yn cyflogi 3,500 o bobl. Yn anffodus, tydi nifer y tai rydyn ni’n eu datblygu ddim yn ddigonol i’r angen. Mae hi’n broblem sydd raid i Lywodraeth y Cynulliad ei hwynebu er mwyn sicrhau bod pobl leol yn cael y cyfle i aros yn eu cymunedau i sicrhau dyfodol ffyniannus yn nhrefi, pentrefi ac ardaloedd gwledig gogledd Cymru,” ychwanegodd Alwyn Llwyd.

Nôl ym mis Mehefin eleni, cyflwynwyd pedwar tŷ fforddiadwy i bobl leol yn Llanuwchllyn, Y Bala, trwy gynllun ar y cyd â Chymdeithas Tai Clwyd a Chyngor Gwynedd. Ychydig dros flwyddyn ynghynt, gwerthodd y Cyngor Sir y tir ym Maes y Pandy, Llanuwchllyn i’r Gymdeithas, a bellach mae pedwar teulu ifanc lleol wedi ymgartrefu yn y tai newydd, sydd wedi eu hadeiladu i safon uchel ac a fydd yn rhad i ' w cynnal a ' u gwresogi.

Yn ôl Elen Thomas, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd: “Mae’r Gymdeithas yn gorfod addasu a newid yn gyson yn sgìl newidiadau gwleidyddol, deddfwriaethol ag economaidd. Mae’r cyfuniad o brinder sylweddol mewn tai fforddiadwy a’r cynnydd anghynaladwy mewn prisiau tai yn golygu bod tai cymdeithasol yn cael mwy o sylw ar y llwyfan gwleidyddol. Mae Cymdeithas Tai Clwyd, trwy gydweithio ag asiantaethau eraill, yn hollol ymrwymedig i geisio diwallu’r sefyllfa, trwy gynnig cynlluniau creadigol gwreiddiol.”

Rhwng 2006 a 2007, buddsoddodd Cymdeithas Tai Clwyd £6.5 miliwn mewn tai fforddiadwy yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam, Gogledd Powys a De Gwynedd, gan wario £1 miliwn ar gynnal a chadw eu heiddo. Gyda’r Gymdeithas yn rheoli dros 1,600 o eiddo, mae hi hefyd yn cyflogi 70 o bobl yn ei Phencadlys yn Ninbych ac yn ei swyddfa yn y Bala.

Yn ystod y deg mlynedd ddiwethaf gwerthwyd 34,000 o gartrefi cymdeithasol o dan y cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng Nghymru, ond dim ond 17,500 o gartrefi newydd a ddatblygwyd gan gymdeithasau tai yn yr un cyfnod.

Yn ôl Nick Bennett, Cartrefi Cymunedol: “Rydym yn croesawu’r mwyafrif o bwyntiau sy’n gynwysedig yn y ddogfen ‘Cymru’n Un’, ac rydym yn credu bod Llywodraeth y Cynulliad yn dechrau mynd i’r afael â materion tai yng Nghymru. Wedi dweud hynny, dylai’r pwyslais fod ar newidiadau rheoleiddio i sicrhau ymdriniaeth hyblyg, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac a fyddai’n galluogi i gymdeithasau tai yng Nghymru adeiladu mwy o gartrefi.”