Amser am Baned Wrth i ’r Preswylwyr Cyntaf Symud i Mewn i Fflatiau Newydd
20 Medi 2007

“Dewch i weld ein tŷ newydd!” Dyna’r gwahoddiad roddodd Donald a Janet Ware i gynghorwyr lleol a swyddogion tai wrth iddynt symud i mewn i’w fflat newydd sbon, er mwyn diolch iddynt am eu cynorthwyo i ddod o hyd i’w cartref eu hunain.

Donald, sy’n atgyweirio hen gerbydau trên i Reilffordd Llangollen, a Janet, arlunydd, yw’r bobl gyntaf i rentu fflat ar y datblygiad newydd yn Felin Dyfrdwy Isaf, sydd yng nghanol tref Llangollen. Ymysg y datblygiad o 42 o fflatiau, mae pedwar o’r fflatiau llawr isaf wedi eu clustnodi ar gyfer rhai dros 55 oed i’w rhentu gan Cymdeithas Tai Clwyd.

Mae Felin Dyfrdwy Isaf hefyd wedi bod o fudd i bobl leol sydd angen cymorth i brynu eu cartref eu hunain. Trwy gynllun disgownt arloesol, rhwng adeiladwyr o Wrecsam, Gower, a Chyngor Sir Ddinbych, mae pobl leol neu bobl sydd yn gweithio yn yr ardal wedi gallu prynu wyth o’r fflatiau dwy lofft am dros 30% yn is na phris y farchnad.

Mae’r datblygiad yn Felin Dyfrdwy Isaf, gan gynnwys y tai fforddiadwy, y cyntaf o’u math yn Llangollen, ac mae wedi denu llawer o ddiddordeb. Mae’r fflatiau helaeth, sydd wedi eu hadeiladu ar safle hen felin gotwm, yn tanlinellu enw da Gower fel adeiladwr ecogyfeillgar. Mae ystod eang o nodweddion arbed ynni ym mhob fflat, gan gynnwys teclynnau cyfradd “A”, gwell system insiwleiddio thermal a sŵn, adnoddau ail-gylchu, ac mae pob un yn cynnwys lle parcio ar gyfer un car - a beic!

Wrth edrych i’r dyfodol - mi fydd y fflatiau yn parhau i fod yn fforddiadwy i bobl sy’n byw neu weithio yn ardal Llangollen. Pan fydd y perchnogion presennol yn symud ymlaen, bydd yn ofynnol iddynt, yn y lle cyntaf, gynnig eu cartref i berson sydd ar gofrestr Perchnogaeth Cartref Cost Isel Sir Ddinbych am bris a gytunwyd sydd ganran yn is na gwerth yr eiddo.