Hwb Sylweddol i Gymru Wledig yn cael ei groesawu gan arweinwyr Cymru
21 Gorffennaf 2008

 

Mae Cymru Wledig wedi derbyn hwb sylweddol diolch i fenter newydd sydd yn anelu at gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.

Mae rhwydwaith o 10 arbenigwr ar dai gwledig wedi cael ei lansio heddiw ar faes Y Sioe Frenhinol gan Jocelyn Davies, AS, Dirprwy Weinidog Tai i daclo tai fforddiadwy i Gymru wledig, sydd ar hyn o bryd yn gosod Cymru wledig fel un o’r ardaloedd lleiaf fforddiadwy yn y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Roberts (Wrecsam), llefarydd ar Dai CLlLC:
“Mae’r broblem o dai fforddiadwy bellach yn effeithio ar Gymru gyfan, ond mae’r heriau’n fwy llym mewn ardaloedd gwledig, ble mae cynaladwyedd cymunedau gwledig yn y fantol. Mae sefydlu’r rhwydwaith yma o Hwyluswyr Tai Gwledig yn fenter ymarferol iawn, sydd yn mynd i roi tai fforddiadwy ar y ddaear i gymunedau gwledig.”

Ychwanegodd Nick Bennet, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae’r rhwydwaith newydd yma yn arddangos beth sydd yn gallu cael ei gyflawni gan sefydliadau tai dim er elw, llywodraeth leol a Llywodraeth y Cynulliad wrth weithio mewn partneriaeth i roi grym i gymunedau gwledig mewn angen dygn. Mae braf gweld argymhelliad gan Gomisiwn Joseph Rowntree a Grŵp Tasg Essex wedi ei weithredu mor sydyn.”

Mi fydd y Rhwydwaith Hwyluswyr Tai Gwledig yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol, cynghorau a chymdeithasau tai dros Gymru wledig i adnabod yr angen am gartrefi’n lleol a gweithio gyda’r holl bartneriaid allweddol er mwyn diwallu’r angen. Gallant hefyd fod a rôl bwysig i chwarae wrth ddod o hyd i safleoedd priodol ar gyfer datblygiadau tai ac adnabod adeiladau gwag a all gael eu defnyddio eto.

Mae’r rhwydwaith yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a’u partneriaid tai, ac fe fydd yn creu chwe swydd newydd i gefnogi ardaloedd gwledig Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Siroedd Wrecsam a Fflint, Gogledd Powys, Canolbarth Powys ac Ynys Môn. Mae cynlluniau wedi cael eu sefydlu eisoes yn Sir Benfro, Gwynedd a Sir Fynwy / De Powys a Siroedd Conwy a Dinbych.

Llun: Chwith I’r dde: Arfon Hughes, Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd, Cerian Evans, HTG Siroedd Conwy a Dinbych, Aled Roberts, CLlLC, Jocelyn Davies, AS, Dirprwy Weinidog Tai, Katrina Michael, Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a David James, HTG Sir Fynwy a De Powys.