Tai Clwyd yn Eisteddfod yr Urdd
26-31 Mai 2008

Cafwyd wythnos brysur ar stondin Cymdeithas Tai Clwyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy ym mis Mai. Manteisiodd Cartrefi Cymunedol ar y cyfle i rannu ein stondin er mwyn codi proffil tai cymdeithasol ar faes yr eisteddfod.
Rhoddwyd ffocws ar waith y Gymdeithas gyda phobl ifanc, yn benodol prosiectau Datblygu Cymunedol megis y prosiect Bus Stop yn sir Conwy.
Yn ogystal â dysgu am waith y Gymdeithas, roedd yna gyfle i blant ddylunio crys t eu hunain, gweithgaredd a oedd yn sicrhau fod yn stondin yn brysur o hyd!