Cystadleuaeth Stad Henoed y Flwyddyn 2008
Mae’r beirniadu yn y gystadleuaeth Stad Henoed y Flwyddyn 2008, a drefnir gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi ei gwblhau.
Cafodd y teitl o Stad Henoed y Flwyddyn Sir Ddinbych 2008 ei ddyfarnu i Buxton Court, Y Rhyl. Fe fyddant yn derbyn siec am £150.00. Mae’r ail wobr wedi ei rannu rhwng Llygadog, Corwen a Llys y Faner, Dinbych. Byddant hwy yn derbyn siec am £75.00 yr un. Yn gydradd drydydd gyda gwobr o £50.00 yr un roedd Wynne’s Parc, Dinbych a Trem y Castell, Llangollen. Noddwyd y gystadleuaeth gan Gymdeithas Tai Clwyd.