Camau Cyntaf i Dai Fforddiadwy gyda Cyngor Conwy a Cymdeithas Tai Clwyd
Mae'r cynnydd diweddar mewn prisiau tai yn golygu na all nifer o bobl ar gyflogau isel neu gyfartalog brynu eu cartrefi eu hunain. I gynorthwyo i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu prynu eu cartrefi eu hunain, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi creu cofrestr perchnogaeth fforddiadwy - 'Camau Cyntaf'.
Un o flaenoriaethau pwysig eu strategaeth tai lleol yw gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu dewis os mai prynu neu rentu yw'r peth gorau iddynt a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae'r cynnydd diweddar mewn prisiau tai yn y sir wedi golygu bod llawer o bobl ar incwm isel neu gyfartalog yn methu â phrynu eu cartrefi eu hunain.
Mae’r Cyngor wedi datblygu nifer o gynlluniau i gynorthwyo pobl i brynu eu cartrefi. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pob datblygiad tai newydd sylweddol yn y sir yn cynnwys tai fforddiadwy.
I helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu prynu eu cartrefi, maent wedi sefydlu cofrestr perchnogaeth fforddiadwy. Bydd y gofrestr yn eu cynorthwyo i:
• gadw cofrestr o bobl sydd â diddordeb yn y cynlluniau hyn;
• datblygu cynlluniau tai fforddiadwy mewn ardaloedd lle mae angen; a
• phenderfynu pwy sy'n cael blaenoriaeth pan fo eiddo ar gael.
I gael gwybod mwy am y cymorth y gallant roi i chi brynu eich cartref eich hun, trowch at y pamffled gwybodaeth Camau Cyntaf isod neu cysylltwch â ‘r Tîm Cartrefi Fforddiadwy.