Noson Agored Tai Fforddiadwy

 

Noson Agored nos Iau 4 Medi 2008 yng Nghanolfan Gymuned Cyffordd Llandudno rhwng 5pm - 8pm.

Mae'r cynnydd diweddar mewn prisiau tai yn golygu na all nifer o bobl ar gyflogau isel neu gyfartalog brynu eu cartrefi eu h

Mae Cyngor Conwy yn dringo'r gris yn ei ymgyrch i helpu prynwyr tro cyntaf a phobl sydd ag anghenion tai i fynd ar yr ysgol eiddo. 

Mae dros 30 o aelwydydd eisoes wedi symud i mewn i'w cartref eu hunain o ganlyniad i roi eu henwau ar y Gofrestr Camau Cyntaf, a rŵan gyda datblygiad tai fforddiadwy newydd a fydd ar gael yn fuan yn ardal Cyffordd Llandudno, bydd hyd yn oed mwy o bobl yn dathlu.

Mae'r Gofrestr Camau Cyntaf ar gyfer pobl sy'n gallu cael morgais ond sy'n cael trafferth cael eu troed ar yr ysgol eiddo. Dylai unrhyw un sy'n gallu cael morgais, efo cysylltiad â Chonwy ond sy'n cael trafferth prynu cartref ar y farchnad agored roi eu henwau i lawr.

Mae Cyngor Conwy yn rhedeg y Gofrestr Camau cyntaf mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a Chymdeithas Tai Clwyd sydd hefyd yn gweinyddu'r rhestr.

Mae Noson Agored Camau cyntaf wedi cael ei threfnu ar gyfer nos Iau 4 Medi 2008 yng Nghanolfan Gymuned Cyffordd Llandudno rhwng 5pm - 8pm. Bydd cynrychiolwyr o Uned Tai Strategol Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd, Macbryde Homes ac Anwyl Homes ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i gynnig gwybodaeth am y datblygiadau sydd ar gael, sut i fynd ar y cynlluniau ac i lenwi ffurflenni cais.

I gael mwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen isod neu ffoniwch (01492) 575983.

 

Taflen Wybodaeth Camau Cyntaf