Diwrnod Tenantiaid Gwerth Chweil!
7 Awst 2008
Daeth Pencampwr Dartiau’r Byd Mark Webster, 24, draw i agor Diwrnod Tenantiaid blynyddol Cymdeithas Tai Clwyd yng Nghanolfan Hamdden Dinbych yn ddiweddar (dydd Mercher, 6 o Awst). Cafodd yr arwr lleol groeso brwd wrth iddo ddiolch i’r tenantiaid ar draws y gogledd am eu cefnogaeth iddo ers ennill teitl Pencampwriaeth Dartiau’r Byd ym mis Ionawr eleni.
Eglura Mark Webster: “Mae pobl yn garedig iawn yn holi i mi ddod i’r digwyddiadau gwahanol yma, ond gyda’r gwaith dartiau a minnau’n hyfforddi i fod yn blymwr, mae hi’n anodd iawn ei chyrraedd hi i bobman. Yn ffodus iawn mae gen i gyflogwr gwych, ac felly gan fy mod i o gwmpas heddiw, roeddwn i’n gallu dod draw i Ddiwrnod Tenantiaid y Gymdeithas i gychwyn y gweithgareddau. Mae’n braf iawn cael bod yma i ddiolch i bobl am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf.”
Bydd Mark yn teithio i Ddenmarc ddiwedd y mis i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Dartiau Ewrop gyda thîm dartiau Cymru.
Bu nifer o siaradwyr gwadd yn cynnig cyngor i denantiaid yn ystod y diwrnod, gan gynnwys Dave Lloyd o TPAS Cymru, y corff sy’n arwain ym maes cyfranogiad tenantiaid yng Nghymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a Siân Bennett o Her Iechyd Cymru. Yn ystod y bore cynigiodd Her Iechyd Cymru arweiniad ar fwyta’n iach a sicrhau ein bod yn cadw’n heini. Amlygodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu gwasanaeth rhad ac am ddim i gynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref, i bobl leol, a’r pwysigrwydd o osod larymau mwg yn y cartref, a’u siecio’n wythnosol.
Yn ô l Bryn Jones, un o Gyfarwyddwyr Cymdeithas Tai Clwyd: “Rydym yn hynod falch o weld cynifer o bobl yn mynychu’r digwyddiad yma heddiw, o’r plant i’r genhedlaeth hŷn. Mae gwahodd ein tenantiaid i'r diwrnod arbennig yma yn ffordd wych o ddod â phawb at ei gilydd i gymdeithasu, i drafod, ac i ddatblygu syniadau newydd. Mae ein partneriaid a sefydliadau eraill yma hefyd i gynnig cyngor ac arweiniad i’r mynychwyr. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth gyson, ac rwy’n sicr ein bod yn cynnig gwell gwasanaeth ar draws gogledd Cymru o gydweithio. Rwy’n mawr obeithio bod pawb wedi mwynhau’r diwrnod, a bod pobl yn gadael yn teimlo iddynt gael budd o ddod at ei gilydd.”
Gydol y bore, cymrodd y plant ran mewn gweithgareddau drama, dweud stori, peintio wynebau, chwaraeon gan gynnwys, hoci, tenis a phêl droed, a daeth y Bws Hwyl draw am dro i’w diddanu yn yr awyr agored.
Bu’r gystadleuaeth sy’n efelychu’r rhaglen deledu ar Channel 4, ‘Scrapheap Challenge’, yn hwyl garw yn ystod y prynhawn, gyda’r plant a’r oedolion yn cymryd rhan ac arddangos eu dyfeisgarwch peirianneg!
Ychwanegodd Bryn Jones: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tenantiaid sydd wedi mynychu heddiw, i’n siaradwyr gwadd, Mark Webster, a’r sefydliadau eraill sydd wedi mynychu. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i’r tîm o fewn y Gymdeithas sydd wedi trefnu’r diwrnod llwyddiannus yma - mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwerth chweil!”